Blwch a dis replica Rhufeinig
Blwch a dis replica Rhufeinig
Disgrifiadau
Replica o flwch a dis chwarae. Roedd dis Rhufeinig fel dis modern, gyda chyfanswm wynebau cyferbyn yn saith. Rhowch gynnig arni: mae un gyferbyn â chwech, tri gyferbyn â phedwar a phump gyferbyn â dau.
I sicrhau chwarae teg, byddai blwch dis fel hwn yn cael ei ddefnyddio. Caiff y dis ei ollwng i’r blwch ar y top, gan rolio lawr yr ysgol fewnol. Fortuna, duwies lwc a ffawd, fyddai’n penderfynu sut byddai’r dis yn glanio.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment