Gwych a Gwallgof
Disgrifiadau
50 o Ryfeddodau Natur Amgueddfeydd Cymru Mae amgueddfeydd ledled Cymru’n gartref i drysorau naturiol anhygoel. Mae’r casgliadau hyn yn ein helpu i ddeall y byd o’n cwmpas a’n lle ni ynddo. Maen nhw’n dangos ein heffaith ni ar fyd natur, a sut mae natur yn effeithio arnom ni. Gellir defnyddio sbesimenau amgueddfeydd i helpu i ateb cwestiynau pwysig mewn gwaith ymchwil modern. Dim ond cyfran fechan o’r 72,200 a mwy o sbesimenau mewn amgueddfeydd rhanbarthol yng Nghymru sydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon. Ynghyd â’r rhai sydd yn Amgueddfa Cymru, dyma gasgliad hanes natur Cymru. Mae’n rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol a gwyddonol. Nod project Cysylltu Casgliadau oedd dysgu am y casgliadau hyn a rhannu gwybodaeth amdanynt â’r cyhoedd. Felly, bu arbenigwyr Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd yn gweithio gyda staff a gwirfoddolwyr i archwilio ac adnabod sbesimenau mewn 18 o amgueddfeydd ledled Cymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment