Skip to main content

Un o drigolion Capel Celyn (Tryweryn), 1961

Disgrifiadau

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir Mrs. Mabel Evans, Garnedd Llwyd, Capel Celyn. Lladdwyd Mrs. Evans a'i gŵr, John William Evans, mewn damwain car ger Cerrigydrudion yn fuan wedi i'r ffotograff hwn gael ei dynnu.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Charles, Geoff
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ11831
Eitem wedi’i llwytho:
24/7/2009
Date originally created:
1961
Gwelediadau:
2926
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment