Skip to main content

Rhan o lythyr anfonwyd gan David Gwilym Rees o'r Wladfa, Patagonia. c1906 / 1907

Disgrifiadau

Rhan o lythyr gan David Gwilym Rees o’r Wladfa yn ôl i Pencaerlan, Blaendulais. Ynddo mae’n son am y trafferthion o ddechrau unrhyw faterion cyfreithiol yn ymwneud a stad ei frawd Rees. Sonnir fod gyfraith y wlad yn Ariannin wedi cymryd o gyfreithiau Prydain ac yr Unol Daleithiau ond fod llawer o lygredigaeth yn y swyddogion sydd yn ei weithredu. Esbonnir hefyd fod wedi gorfod talu i gyfieithu'r tystysgrifau o Gymraeg i Sbaeneg i’w gynrychioli.

David Gwilym Rees a William Gwilym Rees oedd meibion David Gwilym Rees (yr un enw) a Gwenllian Gwilym Rees. Cartref y teulu oedd Pencaerlan, Blaenbulais, Castell Nedd. Anfonwyd y dau frawd allan i Batagonia yn 1905 ar ol clywed am farwolaeth eu brawd Rees (Rhys) Gwilym Rees a ymfudodd yno oddeutu 1885. Bwriad y daith i’r Wladfa oedd i ofalu a setlo stad ei brawd ond yno arhosodd y ddau ac bu farw nhw hefyd yn Y Wladfa. Mae llinach David Gwilym Rees yn parhau yn Gaiman hyd heddiw.

Owner:
Dafydd Rees
Crëwr:
David Gwilym Rees
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
18/8/2015
Gwelediadau:
1113
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment