Llythyr anfonwyd gan David Gwilym Rees a William Gwilym Rees at eu brawd Thomas Gwilym Rees a’i chwaer Lizzie Gwilym Rees anfonwyd o “Rio Grande”, Esquel, Chubut. Hydref 8fed, 1907
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd gan David Rees i’w frawd a chware ar ol iddo gyrraedd yr ffermdy “Rio Grande” yn yr Andes. Nodir fod rhwng hanner llath a dwy droedfedd o eira wedi aros trwy Mehefin i Gorffennaf yn yr Andes. Esbonir fod y ddau yn byw yn y ty roedd gan Rees eu brawd yn yr Andes, sef ffermby ddull cogin (log house) o’r enw ‘Rio Grande’. Sonir mai'r cymdogion agosaf yw Cymro a Sais cafwyd ei geni yn yr Andes ond wedi treulio rhan fwyaf ei oes yn Efrog Newydd. Ac y cymdogion eraill yw dau Gymro, Delar Evans o Troed Thyw Delar, Sir Frycheiniog ac Edward Jones o Bagillt.
David Gwilym Rees a William Gwilym Rees oedd meibion David Gwilym Rees (yr un enw) a Gwenllian Gwilym Rees. Cartref y teulu oedd Pencaerlan, Blaenbulais, Castell Nedd. Anfonwyd y dau frawd allan i Batagonia yn 1905 ar ol clywed am farwolaeth eu brawd Rees (Rhys) Gwilym Rees a ymfudodd yno oddeutu 1885. Bwriad y daith i’r Wladfa oedd i ofalu a setlo stad ei brawd ond yno arhosodd y ddau ac bu farw nhw hefyd yn Y Wladfa. Mae llinach David Gwilym Rees yn parhau yn Gaiman hyd heddiw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment