Llythyr anfonwyd gan David Gwilym Rees at ei frawd Thomas Gwilym Rees a’i chwaer Lizzie Gwilym Rees anfonwyd o “Rio Grande”, Esquel, Chubut. Ionawr 5ed, 1907.
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd gan David Rees i’w frawd a chware ar ol iddo gyrraedd yr ffermdy “Rio Grande” yn yr Andes o Trelew. Mae’n nodi fod y daith wedi cymryd tua deg diwrnod ac wedi costioi 80 dolar am y daith.
Mae’n son fod yr achos gyda’r llys wedi dod i ben. Mae’n nodi hefyd fod cymhlethdod wedi bod gydag enwau aelodau'r teulu ar dystysgrifau ac oni bai bod David wedi talu llwgrwobr o 100 doler byddai’r achos wedi ei atal tan fod profion ychwanegol yn cael ei dderbyn o Gymru. Esboniai fod yr holl gostau hyd yma wedi cyrraedd dros $1,200 a'i fod wedi benthyg yr arian hwn gan ddau unigolyn gyda dealltwriaeth y teilyngdod y da byw unwaith roedd yr achos wedi do i ben.
David Gwilym Rees a William Gwilym Rees oedd meibion David Gwilym Rees (yr un enw) a Gwenllian Gwilym Rees. Cartref y teulu oedd Pencaerlan, Blaenbulais, Castell Nedd. Anfonwyd y dau frawd allan i Batagonia yn 1905 ar ol clywed am farwolaeth eu brawd Rees (Rhys) Gwilym Rees a ymfudodd yno oddeutu 1885. Bwriad y daith i’r Wladfa oedd i ofalu a setlo stad ei brawd ond yno arhosodd y ddau ac bu farw nhw hefyd yn Y Wladfa. Mae llinach David Gwilym Rees yn parhau yn Gaiman hyd heddiw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment