Skip to main content

Llythyr anfonwyd gan David Gwilym Rees a William Gwilym Rees i’w rhieni oddi ar S.S. Galicia ger Monte Video, Uruguay wrth deithio i Patagonia. Tachwedd 10fed, 1905.

Disgrifiadau

Daw’r llythyr yma oddi wrth y brodyr ar fwrdd y S. S. Galicia i’w rhieni pymtheg diwrnod ar ôl iddynt adael St Vincent yn ynysoedd Cape Verd ar eu taith i’r Wladfa. Ar y pwynt yma mae David a William 6683 o filltiroedd o Lerpwl ac yn y 31ain dydd ers dechrau'r daith gyda thua wythnos o deithio eto o’i blaen.
Maent yn son eu bod wedi gorfod cysgu ar fwrdd y llong am wythnos gan ei bod yn rhy boeth yn ei ‘bunks’, roedd hyn yn y cyfnod lle roeddent yn croesi'r cyhydedd. Mae hefyd yn nodi eu bod wedi gweld pysgod hedfa (flying fish) gyda dau ohonynt wedi glanio ar fwrdd y llong lle roeddent yn gallu eu gweld yn fanwl.

David Gwilym Rees a William Gwilym Rees oedd meibion David Gwilym Rees (yr un enw) a Gwenllian Gwilym Rees. Cartref y teulu oedd Pencaerlan, Blaenbulais, Castell Nedd. Anfonwyd y dau frawd allan i Batagonia yn 1905 ar ol clywed am farwolaeth eu brawd Rees (Rhys) Gwilym Rees a ymfudodd yno oddeutu 1885. Bwriad y daith i’r Wladfa oedd i ofalu a setlo stad ei brawd ond yno arhosodd y ddau ac bu farw nhw hefyd yn Y Wladfa. Mae llinach David Gwilym Rees yn parhau yn Gaiman hyd heddiw.

Owner:
Dafydd Rees
Crëwr:
David Gwilym Rees
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
18/8/2015
Gwelediadau:
1251
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment