Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Breiddin (Breidden) bryn

Disgrifiadau

"am fro Vreiddin c. 1223, Brethyn 1292, 1486, Breiddin 13g., (O) Vreitin c.1160-1 (c.1300), dygen ureitin 1157-60 (c.1300), Brethin 1363. Breythin 1382, le Breithyn 1404, Forest of Brethen 1540-1, (am) fro vreiddin c.1223 (c.1631), (dor) Dygen (c.1157-60 C.1300), y dygen c.1000 (c1400)
Aneglur, er bod rhaid mai din ‘caer, cadarnle’ yw’r ail elfen. Ymddengys bod sillafiadau Brei, Vrei- yn diystyru bre, bryn’ ac uchel’ ac yn tueddu ffafrio braidd ‘prin, lled’, ac ati. Gwelir yr elfen braidd mewn geiriau fel breiddben a breiddgwr – y ddau enw yn golygu ‘cwr eithaf, pen pellaf’. Mae’n ddiddorol fod y bardd Gwalchmai, yn ei farwnad i Madog ap Maredudd (bu f. 1160), arglwydd Powys, yn defnyddio’r gair breiddgar ‘dyn sy’n caru perygl, dyn dewr’ mewn cysylltiad â Breiddin yn y llinell ’o vreitin ureenhin ureitgar’ (‘o Freiddin brenin dewr’). Efallai mai ‘caer ar ben uchaf y bryn’ yw Breiddin. Ceir Dygen mewn cysylltiad â Breiddin mewn un sillafiad uchod o farddoniaeth Meilyr Brydydd. Digwydd hefyd mewn barddoniaeth Gymraeg arall fel Marwnad Cadwallon c.1200 gan Elidir Sais gyda Digoll Fynydd (= Cefn Digoll) ond mae ei arwyddocâd a’i ystyryn annelwig. Gallai Dygen olygu’r ardal o gwmpas Breiddin.
"

Owner:
Richard Morgan
Crëwr:
Richard Morgan. A Study of Montgomeryshire Place-Names, Gwasg Carreg Gwalch 2001
Gwybodaeth drwydded
This text is taken from Richard Morgan, A Study of Montgomeryshire Place-Names, Gwasg Carreg Gwalch, 2001
Copyright Details:
2001
Eitem wedi’i llwytho:
30/7/2015
Gwelediadau:
1501
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment