Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Llanfyllin

Disgrifiadau

Llanvelig 1254, Llanvyllyn c.1291, Llanvetlin 1293, Lanvethling 1309, Llanvilling 1504, Llanfylling 16g. gynnar, Ll.fyllinn c. 1566, Ll.mylling ymhowys 1575, Llanvulling 1583, Llanvelling 1588, Llanvylling 1702. O bosib hefyd Llanwyllyn 1383. Llan + enw pers. (Sant) Myllin. Mewn rhai sillafiadau gellir cael -g 'parasitig' ar ei ôl, fel a geir mewn enwau cyffelyb sydd yn gorffen -in. Ychydig a wyddys am Myllin: cafodd ei enwi fel sant Gwyddelig Moling (Melingus yn ôl Gerallt Gymro); byddai hynny yn helpu esbonio diwedd sillafiadau megis Llanfylling. Noda Dafydd ap Gwilym reg leol gan Sant Myllin: O danyn, eiddyn oddef, Meillion awr, Myn Myllin Nef. Ymddengys bod chwedl frodorol gynt yn honni bod Myllin yn tarddu o 'mewn llyn' am fod y sant byth a beunydd yn y dŵr yn bedyddio plant !

Owner:
Richard Morgan, Clwyd-Powys Archaeological Trust
Crëwr:
Richard Morgan, Clwyd-Powys Archaeological Trust
Gwybodaeth drwydded
© Richard Morgan, Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Gwasg Carreg Gwalch. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg yn 2001.
Copyright Details:
2001
Eitem wedi’i llwytho:
29/7/2015
Gwelediadau:
1241
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment