Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Y Trallwng (Trallwm): Welshpool

Disgrifiadau

Pole 1196, 1466-7,1546, la Pole 1197, 1252, 1307, La Pole 1278, La Pole Villa 1286, Pola 1254, 1271, c1291, 1490, la Pola 1289, Poole 1329-30, 1584, Pole in Wales 1477, Walshepole in North Wales 1478, the Welshe poole c.1530, The Walshe Poole, Walschepole 1536-9, Walshe Pole 1559, Welshe Pole 1563, Welshe Pool 1577, Welchepool 1621, Pool 1774
yr trall6ng 1172-1220, Trallug 1254, 1257 (c.1286), y Trallwng 12g.(14g.), y trallwn c.1566, Trelhin B. Pole A. c.1570, y trallwnk c.1560-90, Y trallwng ymhowys 16g., y Trallyn 1606, Welsh Pool called by the natives Trellin 1684.

Mae digonedd o dystiolaeth am y ddau enw ac mae llu o gyfeiriadau at y Trallwng mewn croniclau, barddoniaeth ac achau Cym. yn yr Oesoedd Canol; gw. hefyd Trallwng Gollen (isod). Ystyr trallwng yw ‘pwll budr, man corsog’, ac mae llawer o enghreifftiau o hyn mewn mannau eraill yng Nghymru, e.e. Trallwn (Abertawe) a Trallwng (Pontypridd), Morgannwg, Trallwyn, Penfro a Trallwng (Trallong) Brycheiniog, i gyd mewn sefyllfaoedd cyffelyb. Tarddiad Pool yw SaesC. pool, pol ‘pwll, pil’, ac ymddengys mai rhydd-gyfieithiad o trallwng ydyw. Mae’n ddiddorol sylwi bod llawer o ddyfyniadau yn cynnwys y fannod La mewn sillafiadau Eingl-Ffrangeg a the mewn llawer o sillafiadau Saes. i weddu â’r fannod Gymraeg y. Cysylltir y pwll (pool’) â’r Llyn Du ym mharc y Castell Coch er tro byd, ag y mae proffwydoliaeth ffansїol y byddai’r pwll yn boddi’r dref; fodd bynnag, pan ddaw llifogydd, fe’u hachosir gan yr afon Hafren a chan afon Lledan sydd yn llifo trwy’r dref o’r gorllewin i’r dwyrain; os oes ‘pwll lleidio’ rhaid ei fod yma, efallai wrth Stryd yr Eglwys neu yn agos at yr Hen Domen, yn hytrach nag aber afon Lledan i mewn i afon Hafren, fel y’i hawgrymir gan eraill. Cadarnheir y dybiaeth hon, mae’n debyg, gan y ffaith bod trallwng i’w wedl ddwywaith – unwaith yn Trallwng Gollen ac hefyd yn Trallwng Llywelyn ‘alias Welsh Town’, a saif i’r de ac i’r gogledd o dref ganolog Pool.
Ceir Trallwng Llywelyn alias Welshtown fel y Trallwg Llywelyn 1196 (14g.), trallwg llywelyn c.1400, y dzallẅg llywelyn 1111 (14g) a the Welshe towne 1546, Welshtowne 1586, Welchtowne 1583-4, the Welshe towne 1650, Welshtowne 1653, ac hefyd fel Tregymraeg 1565, 1581. Yn y cyntaf ceir enw pers. cyffredin Llywelyn a geir hefyd mewn enw hen gapel Capel Llywelyn (ger yr Hen Domen) a welir hefyd fel St. Llewellyns Chappell ganol y 16g. a (hen gapel o’r enw) Llewillyn in Welchpoole 1689. Nid oes tystiolaeth yma bod ryw Sant Llywelyn yma; efallai mai cysegriad ydyw wedi’i dybio o rwy Capel Trallwng Llywelyn, ‘capeliaeth yn Nhrallwng Llywelyn’. Ffurf ddiweddar yw Welshtown, a byddai’n naturiol meddwl ei bod yn tarddu o Welshpool; efallai ei bod yn cyfeirio at safle’ fwrdestref wreiddiol o gwmpas yr Hen Domen a Chapel Llywelyn a sefydlwyd gan Gruffudd ap Gwenwynwyn, arglwydd Powys, yng nghanol y 13g., mewn cyferbyniad â’r fwrdeistref ddiweddarach wedi’i chanoli ar y Trallwng (‘Pool Town’). Trwy lawer o’r cyfnod o’r 13g. ddiw,. Goruchafwyd y fwrdeistref gan fwrdeisiaid Saesneg, ac mae’n eithaf posib bod trigolion Cymraeg wedi’u hallgau yn fwriadol o’r ardal hon yn y 15g. Allgaewyd hwy o’r hawl i fod yn fwrdeisiaid, bid siwr. Ai ‘tref fu’n drigfan i Gymry Cymraeg’ oedd Welshtown?
Ymddengys i’r rhagddodiad Welsh- ymddangos er mwyn gwahaniaethu rhwng y Trallwng a lleoedd eraill o’r enw Pool megis Pool, Dorset, bwrdeistref ganoloesol tra phwysig. Ceir cadarnhad o’r ddadl hon mewn ffurfiau megis Pole in Wales 1477, Walshepole in North Wales 1478 a The Welch Poole 1558-1603. Y Trallwng yw ffurf y Trallwm ar lafar gwlad, ond dim ond mewn sillafiadau diweddar y gwelir ef. Gwelir yr –ng yn datblygu trwy –n i –m yn carlwng, carlwm (anifail o dylwyth y wenci). Enw’r ddeoniaeth o gwmpas y Trallwng oedd Pool, ac hefyd enw tymor-byr arall am fynachlog Ystrad marchell a Chastell Coch (ym Mhowys): cyfeiria Pola c.1291 a 1535 at y ddeoniaeth, Pola 1263, 1420 a 1490 ac at ỹ trallwg 1274 (14g.) at y castell, a la Pola 1220-9 a 1225-30 a Trallwng 1196 (14g.) at fynachlog Ystrad Marchell. Am y castell gw. Powys.

Owner:
Richard Morgan, A Study of Montgomery Place-Names, Gwasg Carreg Gwalch 2015
Crëwr:
Richard Morgan,
Gwybodaeth drwydded
© Richard Morgan. Daw’r testun hwn o lyfr Richard Morgan, Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Gwasg Carreg Gwalch. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg yn 2001.
Copyright Details:
2001
Eitem wedi’i llwytho:
29/7/2015
Gwelediadau:
1994
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment