Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Meifod

Disgrifiadau

Meiuot 12g. (13g.), Meyuod 1232, Meyvot 1239, Meyvod 1254, Meyuot 1265, Meynot 1278, Meynoth 1278, Meyfote 1287, Meivot 1346, eglwys Tysiliav yn Meivot 1160 (14g.), eglwys Veir yMeiuot 1156 (c.1400), Ymeiuot c.1155-95 (c.1400), Meyvotte within Powys Lande 1443, Myvod c.1520, Myvot 1535, Meifod ymhowys c.1560-90.

Mei(dd) ‘canol’, yn ôl pob golwg, megis yn Meidrim CRF (+ trum ‘cefnen, copa’) + bod ‘cartref, trigfan parhaol’. Yr esboniad traddodiadol yw bod yr enw yn cynnwys yr elfen Mai (y mis)’, h.y. ‘cartref y mae’r trigolion yn byw ynddo ym mis Mai’, yn debyg i hafod ‘tŷ haf’, trigfan i ffermwr a’i anifeiliaid yn ystod yr haf; gallai hyn esbonio enwau megis y Feifod (ffurf lygredig: Vivod SJ 190423: Plas yn Feifod 1838) a Gwernfeifod (SJ 093289: Gwernvivod 1571, Gwern Feifod 1838), Dinbych ond nid Meifod, a saif ar waelod Dyffryn Efyrnwy, lle mwy addas i drigfan barhaol (a thros y gaeaf). Nawddseintiau’r eglwys yw Gwyddfarch, Tysilio (eglwys Tysiliav yn Meivot 1160 (14g.)) a Mair / Mair Forwyn.

Owner:
Richard Morgan, A Study of Montgomery Place-Names, Gwasg Carreg Gwalch, 2001
Crëwr:
Richard Morgan,
Gwybodaeth drwydded
Richard Morgan. Daw’r testun hwn o lyfr Richard Morgan, Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Gwasg Carreg Gwalch. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg yn 2001.
Copyright Details:
2001
Eitem wedi’i llwytho:
29/7/2015
Gwelediadau:
1421
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment