Enwau Lleoedd Cymru: Pennant Melangell
Disgrifiadau
Pennant c.1160, 1254, 1377, c.1679, Penant Mellagel c.1291, Pennant’ Monachorum 1293, Pennant Malankith 1482, Penant, Pennaunt 1535, Pennant Melanghelth 1559, penant mallangell c.1566, Pennant, Pennant Mylanghell 16g. ddiw., Pennant Melangell c.1640, Pennant Moel Angell 1784
Fel Pennant [Twymyn] + enw pers. Sant Melangell – a gofnodir fel merch i Cyfwlch yn ‘Bonedd y Saint’, casliad o achau o’r 12g., ac hefyd ym marddoniaeth Guto’r Glyn (1445-75) a Lewys Glyn Cothi (c.1420-89); mae’n debyg bod y gwall Monachorum ‘o’r mynachod’ 1293 yn dod o’r ffurf Lad. Monacella’.
Mae Thomas Pennant yn sôn am greirfa Santes Monacella ac yn dweud mai merch i dwyrn Gwyddelig oedd hi; cymerodd hi lw anweddogaeth (celebacy) a ffoi i’r ardal hon i osgoi gorfod priodi. Fe ddaeth Brochwel Ysgithrog, brenin Powys, ar ei thraws wrth hela, ac amddiffynodd Melangell ysgyfarnog rhag ei helgwm. O barch fe roddodd Brochwel dir i fod yn lloches , lle yr honnir iddi gael ei chladdu. Goroesa dernyn o’r chwedl mewn llawysgrif o’r 16g. Ai gwir y chwedl neu beidio, mae’n sicr i Bennant Melangell fod yn gyrchfan pererindod yn 1526.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment