Enwau Lleoedd Cymru: Llansanffraid-ym-Mechain
Disgrifiadau
Llansanfret 1254, Lansanfreit c.1291, Llansanfred 1284, Llannsanfrayd in Mechayn 1390, Llansanfrayt in Mechayn 1404, (eglwys) St Bride (Brigide) in Mechein 1425, Llansanfraid 1577, llan.sanffraid y mechain c.1600
Mae’n debyg mai’r lle hwn oedd cyfchfan pererindota llansaynte frayde wedi’i chofnodi yn 1526. Llan + enw pers. Sanffraid (Saes). ‘St Bride’), < Llad. Sancta Brigida a ddaw ei hunan o Wydd. Saint Brigid (c.450-c.523). Gwelir camsillafiad Llansantffraid yn aml trwy gamgysylltiad â sant. Ac eithrio capeli gynt mae 17 o gysegriadau iddi yng Nghymru a 30 yn Llydaw (yn ei gwedd Llydaweg Brec’hed); yn Iwerddon hi fu’r ail sant o ran cysegriadau oll ar ôl Padrig. Ni ddylid drysu rhwng Brigid (c.450-c.523) a Briget (Birgitta o Sweden (c. 1303-1373).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment