Enwau Lleoedd Cymru: Llanymynech
Disgrifiadau
Llanemeneyth, [Llan]emeneych 1254, Lanmenagh’ 1272, Tlanimenach c.1277, Lameneth 1284, Lan menyth c.1291, Thlanmenygh,Thlanomenigh, Thlanmeneth 1295, ll’ameneich 1377, Lannemynagh 1396, Llanemeneyth 1422, ll.y menych 16g. ganol, Ll.ymenych c.1600
Llan + bann. y + meneich, wedyn myneich, ‘mynachod’, gan ddynodi efallai rhyw gell fynachaidd neu oratori. Cysylltwyd Llanymynech gan yr ysgolhaig Phillimore â Banhenic, lle geni Sant Beuno yn ôl ‘Buchedd Beuno’ c.1400, a meddyliai fod y ffaith bod Ffynnon Feuno yma (mae un arall yn Llandrinio) yn arwyddocaol. Ychydig o debygrwydd sydd rhwng Banhenic a Llanymynech a lleolwyd man geni Beuno gan y ‘Fuchedd’ ger afon Hafren, p’un bynnag (gw. Llamyrewig). Mae Llanymynech yn enwog am ei lleoliad yn gorwedd dros y ffin genedlaethol; bu’r rhan yng Nghymru (Carreghwfa) unwaith yn rhan ar wahân o Sir Ddinbych cyn 1974.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment