Enwau Lleoedd Cymru: Llanerfyl
Disgrifiadau
Llanurvyl 1254, Lanneruel 1271, Lamerwill 1283, Thlanarvuell 1286, Lanurvyl c.1291, Lanurvil 1278, 1286, Lanhurvyl 1291, Lanurevel 1310, Llannurvel 1322, Llanurvyll 1406, Llanorvill 1545, Ll.vrfvl ynghaer Einion c. 1562, llanyrvell 1597, Ll.vrful 16g., Llanervill 1667
Llan + enw pers. Eurfyl a ddatblygodd yn ôl Ellis i Erfyl, Urfyl er bod sillafiadau –erfyl yn ddiweddar iawn. Efallai mai santes Urfyl (vrvyl), wedi’i chofnodi yn 1488, merch honedig i’r enwog Padarn, sydd gennym yma; mae Gwerful yn annhebyg oherwydd y sillafiad. Mae ffynnon wedi’i chysegru iddi (Ffynnon Erfyl) tua’r gogledd-orllewin i’r eglwys a chysylltwyd carreg Gristnogol gynnar ym mynwent yr eglwys â hi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment