Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Cegidfa: Guilsfield

Disgrifiadau

Kegitua em Powys 12g., Kegidua 1254, Kegidua, Kegitua 1265, (pencenedl de) Kykydua 1271, Kekydena 1310, Kekydeva 1376, Kegitiva 1379, 1401, ynghegitua 15g., Kegidva ar ôl 1505, Kegidfa c.1566
Guildesfield, -ffelde 1278, Guldesfeld’ 1286, Guldeffeld 1288, 1329-30, Guldesfeld 1329, 1402, Gillesfeld 1535, Gylsefelde 1547, Guilsfielde 1588, Gilsfild 1597, Guildsfielde 1747-8

Cegid ‘cegid, cecs + -fa, ma, ‘lle’. Mae Guilsfield yn fwy anodd; digwydd yn ddiweddarach na Cegidfa; cafodd ei enw, o bosib, gan arglwyddi Powys, megis Greenhall (isod), ond mae ei ystyr yn annelwig. Fel enw Saes. gallai fod yn ‘Gyldi’s field’ (Melville Richards) neu rywbeth cyfflyb, ond ai cyd-ddigwyddiad ydyw mai ‘field’ yw cyfieithiad bras o –fa? Mae’n ddeniadol gweld cysylltiad rhwng Guldes- a lliw aur rhai aelodau o rywogaeth umbelliferæ sy’n cynnwys panasen wyllt, ffenigl, ac yn wir crogedyf (neu cegiden), wen a chegiden y dŵr. Mae’r enw hwn wedi ymestyn dychymyg eraill: cais gan rai oedd ‘Field of Giles’ (er bod yr G- bob amser yn galed yn Guilsfield) < Cegidfa, ‘wedi’i ystumio i Cae Egidua, the Field of Egidius’ (Egidius yw ffurf Ladin arferol ar Gilies), tra bod Phillimore yn meddwl bod rhyw debygrwydd â lle a ddehonglwyd ganddo fel Guilford ar fap o’r Trallwng 1629. Yn anffodus camddarlleniad o Huilford, h.y. Oldford, yn y Trallwng ydyw, yn ôl pob tebyg. Nawddsant eglwys Cegidfa yw Aelhaearn ac ymddengys mai syniad Thomas Pennant, hynafiaethydd enwog y 18g. Oedd hyn yn wreiddiol.

Owner:
Richard Morgan
Crëwr:
Richard Morgan
Gwybodaeth drwydded
© Richard Morgan. Daw’r testun hwn o lyfr Richard Morgan, Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Gwasg Carreg Gwalch. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg yn 2001.
Copyright Details:
2015
Eitem wedi’i llwytho:
29/7/2015
Gwelediadau:
1366
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment