Panel Drefaldwyn Powys
Disgrifiadau
Cafodd yr Ail Ryfel Byd a llymder gryn effaith ar y 1940au. I adlewyrchu hynny, defnyddiwyd
crwyn winwns i liwio cefndir panel Powys Maldwyn, a roddodd liw sy’n nodweddiadol o flynyddoedd y rhyfel, cyfnod pan oedd gwaith SyM yn hanfodol i fwydo’r wlad a chadw’r milwyr yn gynnes.
Ceir awyren découpage yn y gornel uchaf ar y chwith. Gwelwyd awyrennau’n aml iawn yn ystod
hanner cyntaf y degawd hwn. Mae hon yn hedfan dros nenlinell o doeon clytwaith, gyda’r gemwaith oren yn dynodi’r tanau a’r difrod a wnaed yn ystod y bomio. Mae’r chwiloleuadau o leiniau arian, sy’n codi o ganol y panel, yn craffu’r awyr am yr awyrennau.
Ar ochr dde’r panel ceir ysgoldy sy’n nodweddiadol o Faldwyn mewn brodwaith, gyda phlant yn gwisgo hosanau a balaclafas wedi’u gwau ac yn cario mygydau nwy. Mae’r amryw eitemau ysgol eraill, fel y blociau ABC, y bwrdd du, îsl a’r llyfrau’n dangos bod yr aelodau wedi ymateb yn 1943 i Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Educational Reconstruction.
Anfonodd FfCSyM holiadur at ei aelodau gan ofyn: Pa fath o addysg ydym ni ei eisiau? Dychwelwyd 4,000 ohonynt a chynhaliwyd cynadleddau ffederasiwn, cyn anfon canlyniadau’r
trafodaethau at adrannau priodol y llywodraeth.
Mae darn canol y panel, y tu mewn i’r amlinelliad o Sir Drefaldwyn, yn dyst i waith yr aelodau yn ystod y rhyfel; mae’r bwrdd yn llawn jamiau, llysiau, hosanau a balaclafas wedi’u gwau, ac wedi’u creu o papier mâché, ffeltio gwlyb a chrosio. Ar ddechrau’r rhyfel, gwahoddwyd FfCSyM gan y Weinyddiaeth Amaeth i drefnu cynllun cydweithredol cadw ffrwythau. Daeth pum cant o selwyr Dixie Hand - neu ganwyr cartref - o America, ynghyd ag Uned Cadw Bwyd a stofiau olew, sosbannau preserfio, llieiniau sychu llestri, thermomedrau, jariau jam, jariau potelu, cloriau potiau jam a disgiau arbennig ar gyfer piclau a siytni.
Rhwng 1940 a 1945, cadwyd mwy na 5,300 tunnell o ffrwythau; hynny yw roedd bron 12 miliwn pwys o ffrwythau, a fyddai efallai wedi cael eu gwastraffu fel arall, yn fwyd i’r genedl. Dyrannwyd gwlân gan Gymdeithas y Gwasanaeth Milwrol, a bu’r aelodau’n gwau miloedd o eitemau ar gyfer y milwyr. Y tu ôl i’r bwrdd, mae aelod SyM wedi’i gwisgo mewn ffasiwn sy’n nodweddiadol o’r
cyfnod, gyda ffedog amlap a’i gwallt wedi’i glymu mewn sgarff. Mae’r bathodyn ar y lliain bwrdd yn fersiwn diweddarach o fathodyn SyM, yn dangos rhosyn Lloegr a deilen masarn Canada, gyda llythrennau WI yn disodli’r ddraig.
O dan amlinelliad Sir Drefaldwyn, sydd hefyd yn ffurfio’r llinell amser, gwelwn ddelwedd o fraslun a gopïwyd ar ffabrig, o ferch Byddin y Tir yn gweithio gyda’i cheffyl. Mae’r ddelwedd wedi’i hamgylchynu gan ysgubau gwenith wedi’u crosio.
Ailsefydlwyd Byddin Tir y Merched yn fuan cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd, ym mis Mehefin 1939, i ddarparu mwy o lafur amaethyddol. Erbyn 1943, roedd mwy na 80,000 o ferched yn gweithio yn y Fyddin Tir, a chawsant y llysenw ‘Merched y Tir’. Bu Merched y Tir yn gwneud pob math o waith, gan gynnwys godro gwartheg, wyna, rheoli dofednod, aredig, hel cnydau, cloddio ffosydd, dal llygod mawr a gwaith cynnal a chadw ar ffermydd.
Bu oddeutu 6,000 o ferched yn gweithio i’r Corfflu Coed, gan dorri coed a rhedeg melinau llifio. I
gychwyn, talwyd £1.85 yr wythnos i Ferched y Tir, am o leiaf 50 awr o waith. Yn 1944, cododd y cyflog i £2.85. Ond gan mai’r ffermwr oedd yn talu’r cyflogau yn hytrach na’r wladwriaeth yn uniongyrchol, roedd yn anodd sicrhau bod pawb yn cael yr arian cywir.
Er gwaethaf anawsterau blynyddoedd y rhyfel, digwyddodd llawer o bethau cadarnhaol i SyM.
Yn 1949, sefydlwyd Pwyllgor Siroedd Cymru (bellach yn Bwyllgor Ffederasiynau Cymru) o dan gadeiryddiaeth Mrs Myfanwy Howell, ac yn 1947 prynwyd Parc Marcham, a ddaeth yn Goleg Denman. Coleg Denman yw coleg addysg breswyl a dydd i oedolion SyM ger Rhydychen.
Yn dŷ Sioraidd lluniaidd mewn 17 erw o diroedd hardd, mae wedi’i enwi ar ôl Cadeirydd cyntaf FfCSyM, yr Arglwyddes Denman. Dros y blynyddoedd, codwyd y rhan fwyaf o’r arian yr oedd ei angen i brynu, datblygu a chynnal y Coleg gan yr aelodau. Agorodd Coleg Denman ei ddrysau i aelodau SyM yn 1948 a heddiw mae’n cynnig cyrsiau preswyl a chyrsiau dydd amrywiol
mewn coginio, crefftau a ffordd o fyw. Darlunnir y coleg gan y ddau alarch mewn brodwaith a gleinwaith yn nofio ar y llyn yn nhiroedd Denman: yr alarch yw logo Denman.
Er mwyn ategu’r holl eitemau allweddol a ddigwyddodd yn ystod y degawd, mae’r panel hefyd yn dangos eitemau sydd o’r un pwys i Ffederasiwn Powys Maldwyn fel y goeden mewn ffeltio gwlyb a
gwau sy’n cynrychioli derw enwog Trefaldwyn, a’r defaid, wyn a dofednod mewn crefftwaith amrywiol sy’n cynrychioli ffermio lleol, yn ogystal ag eitemau oedd yn hanfodol i fywyd bob dydd yn ystod y 1940au.
Gwnaethpwyd y llinell amser mewn ffabrig sy’n nodweddiadol o Laura Ashley a anwyd ac a
ddechreuodd ei busnes yng Ngharno, sef lle ffurfiwyd SyM cyntaf Powys Maldwyn hefyd. Defnyddiwyd gleinwaith, clymau Ffrengig ac appliqué ar gyfer bathodyn y ffederasiwn. Mae’r alarch yn nofio ar afon Efyrnwy, gan ddal deilen dderw yn ei big, sef arwydd o dderw enwog
Trefaldwyn. Mae’r wal a’r glwyd yn cynrychioli Castell Powis, a’r ddraig y ffaith bod Ffederasiwn Powys Maldwyn yn rhan o Ffederasiynau Cymru.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment