Fforest betraidd wedi'i dadwreiddio, traeth y Borth, 2015
Disgrifiadau
Ar y traeth rhwng y Borth ac Ynyslas, pan fo'r môr ar drai, gellir gweld boncyffion hen goed sy'n profi fod tir yn gorwedd i'r gorllewin yn y gorffennol, cyn iddo gael ei foddi gan y môr ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig.
Yn Ionawr 2014, oherwydd y gwyntoedd cryfion dadorchuddiwyd rhagor o'r bonion coed pan gliriwyd llawer o'r tywod; ymhlith y gwahanol fathau o goed roedd: y binwydden, y wernen, y dderwen a'r fedwen. Gorwedda'r bonion hyn mewn mawn. Dyddiwyd y coed drwy garbon-ddyddio a cheir tystiolaeth eu bod rhwng 4,500 a 6,000 oed. Mae'r bonion yn ymestyn am tua dwy filltir a hanner.
Dyma un rheswm, mae'n debyg, am y chwedl gyfarwydd am Gantre'r Gwaelod, a gysylltir ag ardal Aberdyfi sydd ar yr ochr arall i'r afon, i'r gogledd.
Yn Ionawr 2015, gellir gweld peirianwaith yn dadwreiddio'r bonion yma, a'i llusgo i ben y traeth.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment