Margam o'r Parc, 19eg ganrif
Margam o'r Parc, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Margam o'r Parc, Illustrations of Glamorganshire, Charlotte Louise Traherne. 19eg ganrif. Pensil a golch inc ar bapur. Roedd Charlotte Louisa Traherne yn chwaer i Christopher Rice Mansel Talbot, etifedd ystâd Margam ym 1824. A hithau'n artist amatur brwd, arluniodd a phaentiodd lawer o olygfeydd o ystâd Margam. Fe'u cyhoeddodd mewn cyfres o gyfrolau dan yr enw Illustrations of Glamorganshire. Dyma olygfa o blasty Tuduraidd Gothig, Castell Margam, a adeiladwyd gan ei brawd ym 1830-40, ac sy'n dal i sefyll heddiw.
Cymynrodd y Fonesig Mansel Franklen, 1938. NMW A 1183
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment