Abaty Margam, Sir Forgannwg
Abaty Margam, Sir Forgannwg
Disgrifiadau
Abaty Margam, Sir Forgannwg. S. Sparrow ac S. Hooper. Engrafiad ar bapur. 1786 Erbyn 1787, roedd Abaty Margam mewn cyflwr torcalonnus. Caiff ei ddangos yma'n adfeilio a thyfiant yn tyfu'n wyllt drosto. Yn eu braw, ymbiliodd y plwyfolion ar Thomas Mansel, perchennog yr ystâd, i'w drwsio. Ar y pryd, roedd ei sylw wedi'i hoelio ar adeiladu'r Orendy ym Mhlasty Margam, ond ymhen hir a hwyr, cytunodd. Yn ystod y gwaith ailadeiladu, gwnaeth newidiadau helaeth i wedd allanol yr adeilad. Cafodd wared ar y clochdy a welir yma, fel na ellid gweld yr Abaty dros do ei Orendy newydd. Prynwyd gan Amgueddfa Caerdydd, 1896. NMW A 6820
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment