Skip to main content

Wyneb Deheuol Plasty Margam, Morgannwg

Disgrifiadau

Wyneb Deheuol Plasty Margam, Morgannwg Adeiladau domestig abaty Sistersaidd Margam oedd man cychwyn datblygu Plasty Margam yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Daeth Margam i feddiant Syr Rice Mansel ar ôl diddymu'r fynachlog ym 1537. Aeth ei ŵyr, Syr Thomas Mansel, ati i orffen y gwaith o weddnewid yr adeilad i greu'r 'plasty teg a moethus' a welwn yma. Dyma oedd tŷ gwledig mwyaf a phwysicaf Morgannwg tan ei ddymchwel tua 1790. Ochr ddeheuol Plasty Margam oedd prif fynedfa'r plasty. Lleolir y plasty mewn parc ceirw yng nghanol perllannau a gerddi ffurfiol. Ar waelod y darlun, gallwch weld teithwyr yn pasio'r gatiau tra fo grŵp o bobl yn chwarae bowls o flaen y tŷ gwledda yng nghornel dde'r darlun.
Prynwyd gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Gronfa Gelf, 2012 Purchased with the assistance of the Heritage Lottery Fund and the Art Fund, 2012

Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
3/12/2012
Gwelediadau:
1133
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment