Skip to main content

Wyneb Gogleddol Plasty Margam, Morgannwg. tua 1700

Disgrifiadau

Wyneb Gogleddol Plasty Margam, Morgannwg. tua 1700
Adeiladau domestig abaty Sistersaidd Margam oedd man cychwyn datblygu Plasty Margam yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae golygfeydd oddi uchod fel hyn yn nodweddiadol o'r peintio topograffigol a oedd i'w weld ym Mhrydain tua 1700. Er yn naïf, mae'n llawn manylion a digwyddiadau. Hwyrach i Syr Edward Mansel gomisiynu'r paentiadau er mwyn coffáu'r gwelliannau diweddar a wnaed. Mae'n bosib mai Thomas Smith oedd yr arlunydd, a fu'n gyfrifol am ddarluniau tebyg o Gymru i Ddug 1af Beaufort.
Ochr ogleddol y plasty oedd cefn y tŷ. Roedd ystafelloedd y teulu ar y chwith, a'r ceginau, y stablau a llety'r gweision a'r morwynion ar y dde. Mae olion y cabidyldy dan dyfiant gwyllt yn y canol, ynghyd ag eglwys y plwyf gerllaw - dyma ddau o'r adeiladau sydd wedi goroesi hyd heddiw. Y tu hwnt i'r tŷ, mae rhodfa a chanddi goed gosgeiddig ar ei hyd yn arwain y llygaid drwy'r caeau i bentref bach Notais a thwyni tywod Cynffig, a gwelir Môr Hafren yn y pellter.
Prynwyd gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Gronfa Gelf, 2012

Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
3/12/2012
Gwelediadau:
1230
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment