Cerdyn Post
Cerdyn Post
Disgrifiadau
Cerdyn post gyda llun o filwr. Yn ei sgrepan mae 12 ffotograff du a gwyn o wersyll Prees Heath, Whitchurch, Salop. Anfonwyd gan y Preifat Brinley Rhys Edmunds o Dunraven St, y Barri, at ei rieni. Bu farw yn Ffrainc ar 5 Medi 1918, yn 19 oed, wrth wasanaethu gyda Throedfilwyr Durham. Roedd wedi ymrestru gyda'r Gatrawd Gymreig yn wreiddiol, ond cafodd ei ryddhau ym 1915 am fod dan oed.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment