Mayonnaise Di-Wy, rysait o'r Ail Ryfel Byd
Mayonnaise Di-Wy, rysait o'r Ail Ryfel Byd
Disgrifiadau
Paratowyd y rysait yma fel rhan o weithgareddau 'Blas y Brifwyl' yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 a oedd yn bartneriaeth rhwng Cymru'r Gwir Flas a Chasgliad y Werin Cymru.
Roedd yr un yma'n rysait boblogaidd yn ystod cyfnod dogni bwyd pan oedd yn rhaid bod yn ddyfeisgar er mwyn paratoi'r ffefrynau heb gynhwysion digonol. Roedd tatws yn cael eu defnyddio yn aml mewn ryseitiau.
Cynhwysion: 1 taten bôb fach 5ml / 1 llwy de o fwstard halen ychydig o finegar 150ml o olew salad Dull: Pliciwch a photsiwch y daten. Ychwanegwch y mwstard a'r halen. Ychwanegwch y finegar yn araf gan guro'n dda. Curwch yr olew i'r gymysgedd gan gymysgu yn dda.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment