'Fritters' Corn Biff o'r Ail Ryfel Byd
Disgrifiadau
Paratowyd y rysait yma fel rhan o weithgareddau 'Blas y Brifwyl' yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 a oedd yn bartneriaeth rhwng Cymru'r Gwir Flas a Chasgliad y Werin Cymru.
Roedd yr un yma'n rysait boblogaidd yn ystod cyfnod dogni bwyd.
Cynhwysion: 2oz blawd hunan godi neu blaen pinsiad o halen 1 wy (ffres neu sych) joch o laeth pinsiad o berlysiau (e.e. teim) 2 llwy de o winwns gratiedig 6oz corn-bîff Ychydig o olew neu 'dripping' Dull: Cymysgwch y blawd gyda'r halen, wy wedi curo a joch o laeth. Curwch tan i chi gael cytew llyfn. Ychwanegwch y corn-bîff, winwns a'r perlysiau. Toddwch yr olew / dripping mewn padell. Rhowch lwyaid o'r gymysgedd yn y badell a gwasgwch er mwyn creu pati bach. Mi ddylai'r gymysgedd wneud 8 pati bach. Ffriwch tan eu bod nhw'n frown ac yn grisp a gweinwch gyda llysiau neu salad.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment