Darn o bapur newydd 'South Wales Heroes of the War', Western Mail yn sôn am anafu James Price Lloyd
Disgrifiadau
Fe fu'r Capten James Price Lloyd o Gatrawd Cymru yn gwasanaethu gyda MI 7b (1) o 1917 hyd nes ei dadfyddino yn fuan wedi'r Cadoediad. MI 7b oedd yr adran Cudd-Wybodaeth a oedd a gofal dros bropaganda yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Capten James Lloyd mewn lle da i ysgrifennu am fywyd yn y rheng flaen ag yntau wedi bod yn Ail-lefftenant ag awdurdodaeth dros blatwn o wyr traed ers ymuno a'r fyddin ym mis Chwefror 1915. Cafodd ei glwyfo yn ei glun dde a'i law chwith ym mrwydr Mametz Wood ym mis Gorffennaf 1916 drwy gael ei ergydio gan machine gun ac nid oedd yn gallu cael eu hachub oherwydd y bomio cyson. Tra'n gwella, cafodd ei recriwtio i weithio i MI 7b. Rho'i ddogfennau a'i ffotograffau, ynghyd â'i bapurau personol, olwg unigryw ar ei fywyd teuluol fel mab hynaf Rheithor Aberedw, pentref ger tref marchnad Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys, Cymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment