Llythyr gan y brawd ifancaf Jeff at James Price Lloyd. Dydd Sul 26 Awst, 1917
Disgrifiadau
Ysgrifennwyd o Gwersyll Catterick yn Swydd Efrog tra roedd Jeff yn cael hyfforddiant fel arwyddwr. Mae'n siarad am awyrennau'r gelyn (yn agos at y cyrch awyr cyntaf ar Lundain). Fe fu'r Capten James Price Lloyd o Gatrawd Cymru yn gwasanaethu gyda MI 7b (1) o 1917 hyd nes ei dadfyddino yn fuan wedi'r Cadoediad. MI 7b oedd yr adran Cudd-Wybodaeth a oedd a gofal dros bropaganda yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Capten James Lloyd mewn lle da i ysgrifennu am fywyd yn y rheng flaen ag yntau wedi bod yn Ail-lefftenant ag awdurdodaeth dros blatwn o wyr traed ers ymuno a'r fyddin ym mis Chwefror 1915. Cafodd ei glwyfo ym mrwydr Mametz Wood ym mis Gorffennaf 1916. Tra'n gwella, cafodd ei recriwtio i weithio i MI 7b. Rho'i ddogfennau a'i ffotograffau, ynghyd â'i bapurau personol, olwg unigryw ar ei fywyd teuluol fel mab hynaf Rheithor Aberedw, pentref ger tref marchnad Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys, Cymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment