Skip to main content

Darn drafft o bropaganda gan James Price Lloyd na chafodd ei gyflwyno, ynghylch noswyl brwydr Mametz, y Somme. 28 Medi, 1917.

Disgrifiadau

Ysgrifennwyd ar gyfer MI7b. Ni chafodd ei gyflwyno oherwydd natur emosiynol y darn. Darn teimladwy iawn am filwyr o Gymru yn paratoi am y frwydr. Ysgrifennwyd flwyddyn ar ol ei brofiad yn y rhyfel. Oherwydd ei natur bywgraffiadol, ni fyddai wedi mynd heibio i'r sensoriaid. Fe fu'r Capten James Price Lloyd o Gatrawd Cymru yn gwasanaethu gyda MI 7b (1) o 1917 hyd nes ei dadfyddino yn fuan wedi'r Cadoediad. MI 7b oedd yr adran Cudd-Wybodaeth a oedd a gofal dros bropaganda yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Capten James Lloyd mewn lle da i ysgrifennu am fywyd yn y rheng flaen ag yntau wedi bod yn Ail-lefftenant ag awdurdodaeth dros blatwn o wyr traed ers ymuno a'r fyddin ym mis Chwefror 1915. Cafodd ei glwyfo ym mrwydr Mametz Wood ym mis Gorffennaf 1916. Tra'n gwella, cafodd ei recriwtio i weithio i MI 7b. Rho'i ddogfennau a'i ffotograffau, ynghyd â'i bapurau personol, olwg unigryw ar ei fywyd teuluol fel mab hynaf Rheithor Aberedw, pentref ger tref marchnad Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys, Cymru.

Owner:
Jeremy Arter
Crëwr:
James Price Lloyd
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2015
Date originally created:
28/9/1917
Gwelediadau:
1502
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment