Nodyn gan James Price Lloyd o Gatrawd Cymru gyda darnau o wydr a gasglwyd o Eglwysi a ddinistriwyd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 20 Awst, 1916
Disgrifiadau
Llythyr ynghyd â darnau o wydr lliw o eglwysi a sieliwyd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac a gasglwyd gan y Capten James Price Lloyd. Roedd yn un o Gatrawd Cymru a gwasanaethodd gyda MI 7b (1) o 1917 hyd nes ei dadfyddino yn fuan wedi'r Cadoediad. MI 7b oedd yr adran Cudd-Wybodaeth a oedd a gofal dros bropaganda yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Capten James Lloyd mewn lle da i ysgrifennu am fywyd yn y rheng flaen ag yntau wedi bod yn Ail-lefftenant ag awdurdodaeth dros blatwn o wyr traed ers ymuno a'r fyddin ym mis Chwefror 1915. Cafodd ei glwyfo ym mrwydr Mametz Wood ym mis Gorffennaf 1916. Tra'n gwella, cafodd ei recriwtio i weithio i MI 7b.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment