Hanes gyrfa a thystlythyron i Dr Mary Eppynt Phillips o Ferthyr Cynog
Hanes gyrfa a thystlythyron i Dr Mary Eppynt Phillips o Ferthyr Cynog
Disgrifiadau
Mary Elizabeth Phillips oedd y fenyw gyntaf i ennill cymhwyster meddyg o Goleg Prifysgol Caerdydd ar droad y ganrif, a daethpwyd i’w hadnabod fel Mary 'Eppynt' Phillips, gan ddefnyddio enw’r mynydd ger y man lle ganed hi ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe fu’n trin milwyr a anafwyd mewn ysbytai ar draws Ewrop, gan gynnwys Calais, Malta a Serbia, yn ogystal a chodi arian sylweddol ym Mhrydain ar gyfer gweithgareddau Ysbyty Menywod yr Alban. Mae'r dogfennau, y llythyron a'r tystysgrifau hyn yn amlinellu ei chyraeddiadau academaidd a'i gyrfa.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment