Gwahoddiad i de gyda Brenin a Brenhines Iwgoslafia, Ebrill 1944
Gwahoddiad i de gyda Brenin a Brenhines Iwgoslafia, Ebrill 1944
Disgrifiadau
Derbyniodd Dr Mary Eppynt Phillips y gwahoddiad hwn i de yn Claridge's gyda Brenin a Brenhines Iwgoslafia ym 1944. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Dr Phillips yn uwch feddyg gydag Ysbyty Menywod yr Alban yn Serbia a chododd swm sylweddol o arian ar gyfer gwaith yr ysbytai yn y wlad trwy fynd ar daith helaeth o amgylch Prydain yn darlithio i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith. Am hyn, enillodd Ddiolchgarwch pobl Serbia. Parhaodd y gydnabyddiaeth hon pan ffurfiwyd Iwgoslafia ym 1918.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment