Ffotograff grwp yn cynnwys Dr Mary Eppynt Phillips yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Disgrifiadau
Mary Elizabeth Phillips oedd y fenyw gyntaf i ennill cymhwyster meddyg o Goleg Prifysgol Caerdydd ar droad y ganrif, a daethpwyd i’w hadnabod fel Mary 'Eppynt' Phillips, gan ddefnyddio enw’r mynydd ger y man lle ganed hi ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe fu’n trin milwyr a anafwyd mewn ysbytai ar draws Ewrop, gan gynnwys Calais, Malta a Serbia, yn ogystal a chodi arian sylweddol ym Mhrydain ar gyfer gweithgareddau Ysbyty Menywod yr Alban. Mae’r llyfr lloffion hwn yn cynnwys telegramau, cardiau post, toriadau a ffotograffau o’r cyfnod. Yn y llun yma, mae yn y rhes gefn, y trydydd o’r chwith, gyda’i braich mewn sling.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment