Lluniau o staff a chleifion mewn ysbyty teiffoid yn Calais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Lluniau o staff a chleifion mewn ysbyty teiffoid yn Calais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograffau hyn gan Dr Mary Elizabeth Eppynt Phillips, meddyg o Ferthyr Cynog a oedd yn rhedeg yr ysbyty gyda chydweithiwr, Dr Hutchisons. Cyrhaeddodd Dr Phillips yr ysbyty ar Ddydd Nadolig 1914, ac arhosodd yno hyd nes mis Ebrill 1915 pan adawodd i ymuno ag Ail Uned Serbia fel uwch feddyg yn Ysbyty Menywod yr Alban yn Valjevo, Serbia. Ar y ffordd i Serbia, arhosodd yr uned ym Malta, ac yno fe fuodd yn gofalu am y Prydeinwyr a oedd wedi’u hanafu cyn symud ymlaen i Serbia.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment