Skip to main content

James Smith, Llynges Frenhinol, Rhyfel Byd Cyntaf

Disgrifiadau

Ganwyd James ar y 3ydd o Chwefror 1896 yn Merthyr Dyfan, Glamorgan, De Cymru, yn fab i John ac Emma Jane Smith. Fe fu farw Emma Jane pan oedd James yn fabi yn gadael John gyda thri o fechgyn bach sef Richard, Walter a James.
Ymhen blwyddyn, fe briododd John gyda gwraig weddw ac roedd ganddi dri o blant.
Pan oedd James yn wyth oed fe fu farw ei dad gan adael James yn amddifad. Nid oedd James yn hapus yn y cartref gyda’i lys fam a hanner brodyr a chwiorydd, ac addawodd pan fuasai yn ddigon hen y byddai’n mynd i weithio ar y mor.
Gadawodd yr ysgol yn 13 mlwydd oed ar ol pasio arholiad arbennig (Labourer’s Exam) er mwyn cael mynd i weithio. Ar ol gwneud cais am waith gyda’r “Locomotive Shed of the Great Western Railway” cafodd wybod nac oedd ganddynt unrhyw swyddi gwag ac o ganlyniad dechreuodd wneud unrhyw swydd fach a ddaeth ei ffordd. Pan oedd dal yn 13 mlwydd oed cafodd waith yng ngweithfeydd tunplat Morfa ar y “Cold Rolls” am 18 swllt bob bythefnos, gan dalu 2d tâl ysbyty a 6d tâl meddyg allan o’i gyflog yn orfodol.
Yn gynnar ym mis Chwefror 1913 pan drodd James yn 17 mlwydd oed, ymunodd a’r Llynges Frenhinol. Yno bu’n gwasanaethu am 10 mlynedd ar lawer o longau ei Mawrhydi sef - “Prince of Wales”, “Exmouth”, “Vivid”, “Concord”, “Monarch”, “Pomono” a “Warspite”.
Gwasanaethodd James trwy gydol y rhyfel byd cyntaf, ac arhosodd gyda’r Llynges Frenhinol ar ol i’r rhyfel orffen. Er bod rhai o’i longau wedi eu taro gan dorpido a chollwyd rhai ohonynt, fe oroesodd James a barheuodd i wasanaethu.
Cyfarfu James ei ddarpar wraig, Henrietta Elizabeth, yn ystod y dathliadau heddwch tu allan i orsaf Victoria yn Llundain a phriododd y ddau yn 1919.
Ymfudodd i Awstralia yn 1927 gyda’i wraig Henrietta Elizabeth a’i ferch a oedd yn 4 mlwydd oed ar y pryd.
Yn 1941 yn ystod yr ail ryfel byd fe ymunodd James a’r fyddin yn Awstralia.
Bu farw ar y 29 Medi 1969 yn Augusta, Gorllewin Awstralia yn 73 mlwydd oed.

Owner:
Trevor Smith
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Trevor Smith 2013
Eitem wedi’i llwytho:
1/12/2014
Date originally created:
1/1/1914 - 1/1/1918
Gwelediadau:
1724
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment