Preifat Richard Lewis, Sir Fon a'I deulu ar ol ymfudo i Awstralia
Disgrifiadau
Ganwyd Richard ar 13 Tachwedd 1898 yn Llanfair-yn-neubwll, Sir Fon. Roedd e'n un o ddeg o blant i William a Margaret Lewis. Tua 1912, symudodd y teulu i fyw ym Mhen Bont Dronwy, Llanfachreth, Sir Fon. Yn y fan yma mynychodd Richard yr ysgol leol, ac ar ol iddo adael yr ysgol gweithiodd ar ffermydd yn yr ardal. Ar 2 Ionawr 1917, ymunodd â 4ydd Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ar ol hyfforddi a gwasanaethu adref, trosglwyddodd i'r Machine Gun Corps lle cafodd hyfforddiant pellach. Ym mis Chwefror 1918 croesodd drosodd i Ffrainc ac fe ymunodd â Chwmni B Bataliwn 1af Machine Gun Corps, Is-adran 1af. Ym mis Chwefror, fe ymladdodd ym Mrwydr y Lys, Fflandrys. Ym mis Ebrill fe ymladdodd yn Estaires, Hazebrouck, a Bethune. Ym mis Medi fe ymladdodd ym Mrwydr Drocourt - Queant Switch Line a hefyd ym Mrwydrau Llinell Hindenburg, yn Epehy, Camlas St Quentin a Beaurevoir Line. Ym mis Hydref cymerodd ei Isadran rhan ym Mrwydr y Selle, a'i gyfraniad olaf oedd croesi'r Gamlas Sambre ar 4 Tachwedd 1918. Ar 16 Chwefror, 1919, ar ol gwasanaethu gyda'r Fyddin, aeth Richard gartref i Ben Bont Dronwy ac aeth yn ol i weithio ar y ffermydd. Yn 1920 priododd a Margaret Ann Jones o Landdeusant, Ynys Mon, a ganwyd dau fab iddynt, Thomas Hugh a John Arthur. Yn 1923, penderfynodd Richard a'i wraig i ymfudo i Orllewin Awstralia drwy hwylio ar y Diogenes. Yn Awstralia ganwyd iddynt dri o blant eraill, William Leonard, Hywel a Gwyneth. Yn anffodus, bu farw Hywel yn faban. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, ymunodd Richard a'i ddau fab Thomas Hugh a John Arthur y Fyddin Awstralia. Cafodd Thomas Hugh ei wneud yn garcharor rhyfel gan filwyr Japan am dair blynedd. Bu farw Richard ym 1974 yn 76 mlwydd oed, heb ddychwelyd o gwbl i Gymru ar ol allfudo i Awstralia.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment