Skip to main content

Llythyr Rhyfel Byd Cyntaf wedi ei ddanfon adref gan Preifat Richard Williams

Disgrifiadau

Roedd Preifat Richard Williams yn rhan o Gwmni B a Phlatŵn C yn 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Danfonodd Richard y llythyr yma adref o'r ffosydd yn Ffrainc at ei fam a'i dad yn Glynafon, Rhydwyn, Caergybi. Cafodd Richard ei ladd wrth ymladd yn Ypres, Gwlad Belg yn 1917.

Deffrodd Mam Richard un bore a dod o hyd i nodyn yn esgid Richard i ddweud wrthi ei fod ef a'i gyfaill Lewis Jones o Ysgoldy Pedair, Llanrhuddlad, wedi mynd i ffwrdd i ymuno â'r fyddin ym Mharc Cinmel. Cafodd Richard a Lewis eu gwahanu i wahanol Fataliwn, ac aethant i'r Rhyfel ar wahân. Yn anffodus cafodd y ddau eu llad wrth wasanaethu gyda'r fyddin. Yn anhygoel, cafodd y ddau eu lladd ar yr un diwrnod, ac er eu bod ar y pryd yn gwasanaethu mewn gwahanol leoliadau, yn rhyfeddol cawsant eu claddu cefn wrth gefn ym Mynwent Bard Cottage, Gwlad Belg.

Ganwyd Richard ar 12 Mehefin 1895 yn Stryd y Capel, Rhydwen, neu Rhydwyn fel y gelwir heddiw, pentref bach yn Llanrhuddlad Plwyf ger Caergybi, Ynys Mon. Roedd Richard yn un o wyth o blant a anwyd i Hugh a Catherine William. Symudodd y teulu yn ddiweddarach i Glyn Afon, Rhydwen. Ymadawodd Richard am Ffrainc yn 1916 ac yno ymunodd â 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, rhan o'r 38ain Isadran. Aeth i'r ffosydd ger Ypres, a bu hefyd yn ymladd yn Boesinghe ac ar hyd Camlas Yeser yn ystod y cyfnod a arweiniodd i fyny at Drydedd Frwydr Ypres yn 1917. Collodd ei fywyd ar 16 Mehefin 1917 yn 23 mlwydd oed. Roedd yn rhan o'r uned gosod ceblau cyfathrebu ar y pryd.

Owner:
Una Fromel
Crëwr:
Richard Williams
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Una Fromel 2013
Eitem wedi’i llwytho:
1/12/2014
Date originally created:
1/1/1917
Gwelediadau:
1514
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment