Medal 1914-15 Preifat William Hughes
Disgrifiadau
Roedd Preifat William Hughes yn un o dri o blant. Cafodd ei eni ar 15 Awst 1896 yn Tan Y Fron, Llanfaethlu, Ynys Mon i John ac Ellen Hughes. Symudodd y teulu yn ddiweddarach i Twll Clawdd, Llanfwrog, Ynys Mon. Pan roedd yn blentyn mynychodd Ysgol Ffrwd Win, Llanfaethlu, ac ar ol gadael yr ysgol arhosodd adref i helpu ei Dad ar y fferm. Ymunodd William a'r fyddin yng Nghaergybi yn 1914 ac ymunodd â 14eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, rhan o'r 38ain Adran Gymreig. Ar ol hyfforddi a gwasanaethu adref, ar 2 Rhagfyr 1915 croesodd William ynghyd â'i fataliwn drosodd i Ffrainc, ac fe wasanaethodd y bataliwn yn y ffosydd o gwmpas Laventie a Richebourg. Ar 5 Chwefror, 1916 pan allan ar batrol, cafodd William ei anafu'n wael a bu farw yn ddiweddarach yn y diwrnod mewn gorsaf triniaeth yn Vieille-Chapelle. Roedd William yn 19 oed ar y pryd. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Filwrol Locou ger Bethune, ond yn ddiweddarach cafodd ei symud i Fynwent Filwrol Newydd Vieille-Chapelle yn Lacouture.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment