Dinistr y Barri – rhan 7/7 o “In the Same Boat”, (1990)
Disgrifiadau
Yn dilyn y dirywiad yn y gweithgarwch diwydiannol a defnyddioldeb y dociau, collodd y Barri nifer o strydoedd ac adeiladau ar draul ailddatblygiad, gan wasgaru nifer o gymunedau clos. Sonnir yma am Glwb Trefedigol a wasanaethodd fel lle i forwyr croendywyll fynd i gymdeithasu dros gêm o gardiau, rannu cerddoriaeth a mwynhau diod.
Hiraetha’r rhain sy’n cael eu cyfweld am golled y gymuned hon, a gwelwn fel yr oedd y gymuned rhan annatod o dwf a datblygiad y Barri ar ddechrau’r 20fed Ganrif.
“On those couple of streets, Barry was built.”
“In the Same Boat”, 1990
Cyfweliadau hanes llafar gyda thrigolion y Barri, yn trafod y datblygiad diwylliannol a chymdeithasol o ddechrau’r 20fed Ganrif hyd at 1990. Mae’r ffilm fer hon wedi’i rhannu yn 7 rhan, pob un yn delio ag agwedd wahanol o fywyd cymdeithasol y Barri.
Cyfweledigion:
Phyllis Caldwell, Maureen Flipse, Pini Hicks, Violet Jones, Frossini Moran, Johnny Palmer, Gwen Payne, Elsie Phipps, Betty Pring and Ronnie Smith.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment