Amrywiaeth Ddiwylliannol – rhan 5/7 o “In the Same Boat”, (1990)
Disgrifiadau
Trigolion y Barri yn rhannu’u hatgofion am yr amrywiaeth ddiwylliannol a oedd yn gryf yn yr ardal o ganlyniad i’r holl waith a oedd ar gael yno. Yma cawn sylwadau ar integreiddio, y traddodiadau a ddaeth o dramor a’r diwylliant a rannwyd yma, colli’r iaith naturiol, traddodiadau priodasol a cherddoriaeth.
Rhoir sylw arbennig yma i’r gymuded Roegaidd, eu priodasau, siopau coffi, a’r ffordd o fyw yn y Barri.
Yma hefyd ceir hanesyn hyfryd o gamgymryd golchdy Tsieineaidd gydag ogof opiwm!
“In the Same Boat”, 1990
Cyfweliadau hanes llafar gyda thrigolion y Barri, yn trafod y datblygiad diwylliannol a chymdeithasol o ddechrau’r 20fed Ganrif hyd at 1990. Mae’r ffilm fer hon wedi’i rhannu yn 7 rhan, pob un yn delio ag agwedd wahanol o fywyd cymdeithasol y Barri.
Cyfweledigion:
Phyllis Caldwell, Maureen Flipse, Pini Hicks, Violet Jones, Frossini Moran, Johnny Palmer, Gwen Payne, Elsie Phipps, Betty Pring and Ronnie Smith.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment