Merched, Cymdogion a Moddion – rhan 4/7 o “In the Same Boat”, (1990)
Disgrifiadau
Wrth i gynifer o’r dynion fynd i’r môr gan weithio am fisoedd ar eu hyd oddi cartref, daeth teuluoedd y Barri i ddibynnu’n drwm ar ferched, a ddaeth o reidrwydd yn gryf yn emosiynol. Tynnwyd y sefyllfa economaidd bobl at ei gilydd, gan arwain at gymdogion yn dibynnu ar ei gilydd ac yn cynnig cymorth ym mhob amgylchiad, yn enwedig pan fod pob agwedd o fywyd (yn cynnwys genedigaethau, priodasau ac angladdau) yn digwydd o fewn cyfyngiad un stryd.
Heb arian i dalu am feddyg i ymweld, byddai pobl yn aml iawn yn defnyddio meddyginiaethau gartref, ac yn brwydro drwy salwch wrth ddibynnu ar y rheiny oedd yn byw gerllaw.
Roedd gelod hefyd yn feddyginiaeth gyffredin, yn hawdd i’w prynu o’r jar yn y fferyllfa.
“In the Same Boat”, 1990
Cyfweliadau hanes llafar gyda thrigolion y Barri, yn trafod y datblygiad diwylliannol a chymdeithasol o ddechrau’r 20fed Ganrif hyd at 1990. Mae’r ffilm fer hon wedi’i rhannu yn 7 rhan, pob un yn delio ag agwedd wahanol o fywyd cymdeithasol y Barri.
Cyfweledigion:
Phyllis Caldwell, Maureen Flipse, Pini Hicks, Violet Jones, Frossini Moran, Johnny Palmer, Gwen Payne, Elsie Phipps, Betty Pring and Ronnie Smith.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment