Cerdyn post diwethaf gan Charlie i Blanche N Wooton o Baris, Medi 1 1915
Disgrifiadau
Cyfres o gardiau post a anfonwyd gan 'Charlie' i Blanche Woonton, yn fwyaf tebygol roedd Charlie a Blanche yn gariadon ar y pryd. Cafodd rhan fwyaf o'r cardiau post eu hanfon o Boulogne-sur-Mer a Pharis a anfonwyd rhwng 24/9/1914 hyd at 1915/01/09. Bu Charlie yn gwasanaethu ar y S.S Asturias, llong cafodd ei hawlio gan y Llynges Frenhinol ym 1914 i gael ei ddefnyddio fel llong ysbyty. Cafodd yr S.S Asturias ei ymosod ar gyntaf Chwefror 1af, 1915 oddi ar La Havre ond nid chafodd ei difrodi. Dwy flynedd yn ddiweddarach tra ar y ffordd i Southampton o Avonmouth cafodd ei daro gan dorpido Almaeneg yn ystod y nos. Cafodd 31 o forwyr eu lladd a 12 ar goll. Fe redodd y llong i’r llawr ger Bolt Head. Ni wyr os goroesodd Charlie yr ymosodiad hwn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment