Skip to main content

Llun llusern hud (ar wydr): Rhyd Ddu tua 1900?

Disgrifiadau

Llun ar wydr (sleid llusern hud / "Magic Lantern Slide") yn dangos rhan o bentref Rhyd Ddu yn edrych ar hyd y lon i gyfeiriad Caernarfon - y "Mynydd Mawr" yn y cefndir. "Ty Mawr" yw'r adeilad mawr yng nghanol y llun ar ochr chwith i'r ffordd - gyda'r hen ffermdy/beudy? wrth ei ymyl. Mae'n debyg mai Morgan Terrace neu Edward Terrace yw'r rhesdai ar yr ochr dde i'r ffordd gyda'r gwragedd y tu allan yn gwylio'r ffotograffydd wrth ei waith. - Ar ganol y ffordd yn y pellter - tu ol i'r "pram" hen-ffasiwn, mae na ddwy wraig yn siarad - un yn dal plentyn yn ei breichiau. Dyddiad? - tua dechrau'r ugeinfed ganrif neu fymryn cynharach ? - o edrych ar gyflwr y ffordd, a chyn dyfodiad y polion teligraff, ac yn ol steil y gwisgoedd

CMC1916
Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
14/08/2013
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
16/10/2014
Gwelediadau:
989
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment