Cneifio am y tro olaf yng Nghapel Celyn, Gorffennaf 1961
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir y cneifwyr canlynol yn mwynhau'r bwyd a baratowyd ar eu cyfer gan y gwragedd lleol: Joni Edwards, Ciltalgarth; Morris Roberts, Craig yr Onwy; Evan Jones, Ty'n y bont; Emrys Davies, Y Fferm; Gwyn Jones, Rhyd y Fen; Tryweryn Evans, Pencoed, Ty'n y bont; a John Jones, Ty Uchaf.
Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment