Skip to main content

Ffwrn Drydan Revo o’r 1940au

Disgrifiadau

Ffyrnau Trydan
Daeth yr hwb mwyaf i drydan yng nghefn gwlad Cymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd a hyd at ddechrau’r 1950au.Er bod y ffyrnau trydan glân ac effeithiol newydd ar gael, roeddent yn araf i ddisodli’r ffyrnau wal, ffyrnau haearn bwrw, ffyrnau Aga, ffyrnau Rayburn a hyd yn oed y stofiau oel lamp drewllyd. Roedd y gost yn ffactor bwysig yn y penderfyniad.

Ffwrn Drydan Revo o’r 1940au
Yn ystod y 1930au a’r 1940au, cyflwynodd gwneuthurwyr ffyrnau arwynebau enamel glân yn ogystal ag elfennau gwresogi effeithiol a rheolaeth thermostatig. Yr adeg honno, daeth dyfeisiau trydan yn rhatach ac elwai rhan fawr o’r boblogaeth ar gynlluniau hurbrynu.
00.1932

Y “Baby Belling”
Cyflymodd y Baby Belling y newid o lo i drydan. Daeth yn offer poblogaidd ar gyfer y gegin oherwydd ei fod yn fodel rhad..
Yn 1957, costai tua £8 10 swllt (£8.50).
Daeth y wraig tŷ yn gyfarwydd â’r ffyrnau bychain hyn gan raddol werthfawrogi eu manteision dros rai’r ffwrn draddodiadol.
Yn y diwedd, prynent fodelau mwy soffistigedig a oedd yn fwy o faint.

Roedd rhai yn gyndyn i newid i drydan:
“Gosodwyd gwifrau ar ein fferm yn 1933. Gadawodd fy rhieni’r fferm yn 1953 heb newid yr un o’r dyfeisiau coginio. Hoffai mam wneud y coginio i gyd o hyd ar y ffwrn haearn. Nid oedd ffwrn drydan ganddi ac ni wnaeth trydan newid ein deiet. Cyflenwad da o gawl, cacenni o’r llechfaen a theisennau lap hyd y diwedd.
WFM ms. 3537/24

Cyflogai Bwrdd Trydan De Cymru fenywod cymwys fel ‘arddangoswyr’ i gymell pobl i brynu ffyrnau trydan newydd. Mae un o’r arddangoswyr hynny a fu’n gweithio yn ardal Llanbedr-Pont-Steffan/Tregaron yn 1949 yn cofio :
“Fy nyletswydd oedd gwneud bwydydd blasus a chynnal safonau coginio uchel yn ogystal hefyd â chymell pobl i brynu. Roedd yn bwysig gwerthu’n daer ar gryn gyflymder, cynnal arddangosfeydd yn unrhyw bentref a oedd wedi’i gysylltu â thrydan a hynny fel arfer mewn ysgolion a neuaddau pentref. Mynd ati o ddifrif!”

Owner:
Amgueddfa Ceredigion Museum
Crëwr:
Amgueddfa Ceredigion Museum
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
22/7/2014
Gwelediadau:
4617
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment