Cyfweliad gyda theulu'r gymnastwr William LeBeau
Disgrifiadau
WILLIAM LEBEAU/TITT
hanes gymnastwr yng ngeiriau ei fab, Anthony LeBeau, ei ferch yng nghyfraith, Marion LeBeau, a’i ŵyr, Stephen LeBeau
Anthony LeBeau yn sôn am ei dad, WILLIAM LEBEAU
Fy enw yw Anthony LeBeau. Cefais fy ngeni ar Ebrill 9fed 1923 ac rwy’n byw yng Nghaerdydd. William LeBeau oedd fy nhad. Cafodd ei eni yn 1881.
O ddydd i ddydd byddai dad yn gweithio gyda’r glo. Dyma oedd oes y glo. Roedd yn caru’r glo, yn addoli glo i fod yn onest. Gwerthwr glo oedd e. Roedd ganddo dryciau ar y lein. Byddem ni’n mynd i lawr i godi llaw arnynt bob tro y bydden nhw’n pasio gyda’i enw, LeBeau, arnynt. Roedd e’n ddyn da. Gwariodd lawer iawn o arian ar fod yn dda. Pan adeiladwyd Ysbyty Brenhinol Caerdydd, rhoddodd lawer o arian ynddo, gan feddwl am bobl eraill.
O ddydd i ddydd byddai dad yn gweithio gyda’r glo. Dyma oedd oes y glo. Roedd yn caru’r glo, yn addoli glo i fod yn onest. Gwerthwr glo oedd e. Roedd ganddo dryciau ar y lein. Byddem ni’n mynd i lawr i godi llaw arnynt bob tro y bydden nhw’n pasio gyda’i enw, LeBeau, arnynt. Roedd e’n ddyn da. Gwariodd lawer iawn o arian ar fod yn dda. Pan adeiladwyd Ysbyty Brenhinol Caerdydd, rhoddodd lawer o arian ynddo, gan feddwl am bobl eraill.
Roedd e’n ddyn crefyddol, wel, yn rhy grefyddol i ddweud y gwir. Byddai bob amser yn rhoi ei eglwys o flaen popeth arall ac, ar Ddydd Sul, byddem ni adref a byddai ef yn mynd i’r eglwys i’r gwasanaeth wyth, ac yn mynd eto am un-ar-ddeg, yna byddai’n mynd am un y prynhawn ac eto gyda’r nos. Does dim rhaid i mi ddweud na fyddai byth yn rhegi. Mae hynny’n beth anghyffredin heddiw.
Heblaw bod yn grefyddol iawn – roedd yn aelod o Eglwys St. Saviour yn Sblot – roedd yn hoff iawn o athletau. Trefnodd dîm athletau i Eglwys St. Saviour. Roedd yn falch iawn o’i gorff. Rwy’n cofio bob amser pan oeddwn i’n fachgen bach, byddai’n dweud, “Dere yma Tony, teimla’r cyhyrau yma” a byddai lwmp mawr ar ei fraich!
Sefydlodd y tîm ieuenctid a thalodd am y cit i gyd ei hun. Cafodd y gwisgoedd cyfan iddyn nhw. Pencampwyr Cymru yn y flwyddyn gyntaf. Enillodd dîm y bechgyn o’r eglwys wobrau drwy Gymru gyfan – gwobr ar ôl gwobr. Doedd dim arian.
Doedd fy mam byth yn hapus iawn â’r gwobrau yma i gyd. Fyddai hi ddim yn eu hagor nhw. Byddai ganddi tua chwe blwch o gyllyll a ffyrc, cytleri arian, mewn bocs derw. Yn y dyddiau hynny, doedd dim ffasiwn beth â chyllido. Pan aeth i’r Gemau Olympaidd (yn 1908 a 1912), cafodd gefnogaeth gan syndicet Sblott a gan yr eglwys. Dyna sut y cafodd fynd. Gweithiwr cyffredin ydoedd. Doedd e ddim yn fyr o arian, ond doedd dim gormod ganddo chwaith.
Roedd yn meddwl am athletau drwy’r amser ond byth yn siarad amdano. Dim ond pan welwch ei fedalau a’r hyn a gyflawnodd y gwelwch beth wnaeth e. Dim ond ar ôl iddo farw y ces i glywed am bethau. Roedd e’n swil. Byddai’n cadw’r holl bethau a enillodd ond roedden nhw yn ei gwpwrdd dillad wedi’u gwthio o’r ffordd. Y cwbl y byddai’n ei ddweud wrthyf i oedd “Teimla fy mraich neu fy nghoes”!
Roedden nhw’n lympiau mawr. Fyddai fy nwylo bach innau ddim yn mynd o’u cwmpas nhw. Roedd wedi cadw’r papurau newydd hyd yn oed, yr Echo a’r Western Mail, ac roedd y lluniau ynddyn nhw. Mi dorrais i nhw allan. Doedd e byth yn brolio am unrhyw beth. Doedd gan fy chwaer a minnau – dim ond y ddau ohonom ni oedd – doedd gennym ni ddim syniad am hyn o gwbl, nes y bu farw.
Pan oedd wedi gorffen gyda’r chwaraeon, yn methu gwneud unrhyw beth arall am fod ei gyhyrau wedi mynd, roeddwn i’n drist iawn. Ar y diwrnod y bu farw, ar y dydd Sadwrn, roedd Gêm Gwpan yr FA a dywedodd wrthyf “Allet ti osod y radio wrth ymyl fy ngwely?”Wel, yn y dyddiau hynny doedd hynny ddim yn hawdd. 1956 oedd hi, felly i ffwrdd â fi i edrych ond allwn i ddim cael yr erial i weithio. Felly, beth wnes i yn y diwedd oedd gwneud y gwely metal, y ffrâm fetel hynny ydy, yn erial i’r radio ac fe weithiodd yn wych. Dywedais wrth dad “Dyna ni dad, bydd hwnna’n iawn i chi”. A bu farw dad druan y bore hwnnw felly chafodd o ddim clywed ei bêl-droed. Hyd y diwedd un roedd yn meddwl am ei chwaraeon welwch chi. Dw i’n teimlo fy mod wedi’i gadw e’n fyw, wyddoch chi.
Marion LeBeau yn sôn am ei thad-yng-nghyfraith, WILLIAM LEBEAU
Fe enw yw Marion LeBeau. Cefais fy ngeni ar Fawrth 8 1926 a dw i’n wraig i Anthony LeBeau. Mi fues i’n byw gyda mam a thad Tony [William LeBeau] am rai blynyddoedd yn ystod y rhyfel, ac er bod William LeBeau yn ddyn hynod breifat, cefais ddod i’w nabod ychydig bach.
Yr un peth dw i’n ei wybod amdano oedd bod ganddo gês gweddol fawr o dan ei wely a byddai’n rhoi ei wobrau gymnasteg i gyd yn hwnnw, rhoddion y byddai weithiau’n eu tynnu allan i’w rhoi i’w ferch Josie a’i fab Tony. (Stephen: Dw i’n cofio tadcu’n rhoi chwe llwy de arian i Josie, a dw i wedi cadw’r rhain am ei bod hi wedi’u pasio nhw i mi ar fy mhriodas arian.)
Heb unrhyw amheuaeth, ef oedd y person mwyaf preifat rwyf wedi’i gyfarfod erioed. Roedd yn ddyn hyfryd hyfryd. Wnes i erioed ei glywed yn rhegi neu’n colli ei dymer. Yr amser y bues i’n byw gydag o, roedd ganddo’r rownd lo. Byddai’n dod i mewn mor ddu â’r frân, a’r peth cyntaf y byddai’n ei wneud oedd mynd i fyny’r grisiau i gael bath a dod i lawr yn hollol lân.
Wnes i erioed ei glywed yn mynd yn flin nac yn dweud y drefn wrth neb. (Anthony: Roedd yn ddyn mor gryf ac athletaidd. Roedd hi’n rhyfeddol ei fod yn ddyn mor addfwyn ei natur.)
O ran newid ei enw o LeBeau i Titt, bu farw ei dad – bu farw LeBeau – ac ailbriododd ei fam. Priododd ddyn o’r enw Titt. Mae gan rai o fedalau William yr enw Titt arnynt. Dyna oedd ei enw yng Ngemau Olympaidd 1908 a 1912, ond pan fu farw ei lys-dad, newidiodd ei enw yn ôl i LeBeau. Ganed William a bu farw dan yr enw LeBeau (Anthony: Doedd e ddim yn hoffi’r enw Titt, felly newidiodd ei enw a fuodd e erioed yn Titt eto.)
Roedd gennym lwythi o fedalau ar ôl iddo farw. Fel y gwelwch, trefnodd Tony i roi llwyth ohonynt mewn ffrâm ac maen nhw wedi hongian yn ein tŷ ers hynny. Roedd tlysau di-ri.
Mae’r arddangosfa hon Dilyn y Fflam yn gyfle gwych i roi cydnabyddiaeth i dad o’r diwedd. (Anthony: Ond Marion, dydy hyn ddim yn rhywbeth yr oedd yn chwilio amdano.)
Na, ond mae’r Gemau Olympaidd wedi dod a dw i’n meddwl ei fod yn beth gwych i’w blant a’i wyrion. Ac i Gymru wth gwrs. Mae’n rhagorol i’r teulu cyfan, y ffaith y bydd ei enw wedi’i gadw’n fyw.
(Anthony: Wnes i erioed ei nabod yn dda iawn i ddweud y gwir a fi oedd ei fab.)
Stephen LeBeau yn siarad am ei dad-cu,
WILLIAM LEBEAU
Fy enw yw Stephen LeBeau. Cefais fy ngeni ar Awst
28 1948 ac rwy’n Gymro o Gaerdydd.
Y ddau beth a gafodd yr argraff fwyaf arnaf am fy nhad-cu, William LeBeau, oedd, yn gyntaf, ei fod yn amryddawn iawn mewn chwaraeon.
Mae gennym nifer enfawr o fedalau a gwobrau, ac mae cofnodion am hyd yn oed fwy, hyd at oddeutu 200 i gyd ar gyfer pob mathau o chwaraeon – naid hir, clwydi, bocsio, yn ogystal â’r gymnasteg y daeth yn enwog amdano, ac mae’n haeddu’r enwogrwydd hwnnw bob tamaid, oherwydd y fedal Olympaidd a enillodd. Yr ail beth a gafodd argraff fawr arnaf, yn sicr o’i gymharu ag athletwyr heddiw, yw hyd ei yrfa. Roedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon pan oedd yn ddyn ifanc a pharhaodd drwy gydol ei fywyd. Mae gennym gofnodion amdano’n cystadlu mor fuan â 1904, a chyn hynny pan oedd yn ei arddegau, hyd yr 1930au.
Hyd yn oed gyda’r Gemau Olympaidd eu hunain, yn 1912, pan enillodd ei fedal efydd, roedd yn 31 oed, sydd o edrych ar safonau heddiw’n hen iawn mewn termau athletaidd.
Cafodd Gemau Olympaidd 1916 eu canslo oherwydd y rhyfel felly pwy a ŵyr a fyddai wedi parhau am bedair blynedd arall a chystadlu yn y rheiny, a fyddai’n drydydd tro iddo? Mae’n debyg y byddai, oherwydd mae’n sicr nad oedd ei yrfa ar ben. Rwy’n eithriadol falch ohono, a’r ffaith ei fod yn Gymro. Dydy Cymru byth fel petai’n cael y clod dyledus yn y byd chwaraeon. Roeddem yno’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd reit ar ddechrau’r gemau modern ac yn llwyddo, yn gwneud yn dda. A’r ffordd y cafodd fynd hefyd, gyda’r gymuned yn ei noddi a’r eglwys yn ei noddi, fel y dywedodd fy nhad, i godi arian i’w anfon dros y môr. Wrth gwrs, dydy mynd i Sweden yn ddim byd heddiw, ond bryd hynny roedd yn beth mawr a doedd Tad-cu ddim yn ennill ceiniog yr holl amser yr oedd i ffwrdd. Roedd hi’n llawer mwy o ymdrech yn ariannol nag y byddai heddiw.
Mae dau reswm, efallai, pam ein bod wedi anghofio am y dyn yma a’i lwyddiannau. Un wrth gwrs yw bod amser wedi pasio. Dw i wedi bod yn ymchwilio’r cefndir. Doedden nhw ddim yn cael yr un cyhoeddusrwydd, drwy’r cyfryngau a lluniau parod y teledu, ac ati. Ond yn ail, wrth gwrs, yw’r dyn ei hun, oedd mor ddiymhongar, mor swil; rhaid cofio nad oedd fy nhad, ei fab ei hun a’i ferch yn gwybod llawer am ei lwyddiannau nes dechrau dod o hyd i’r tlysau, y medalau a’r gwobrau roedd wedi’u hennill, a hynny ddim ond ar ôl iddo farw.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment