Cyfweliad gyda'r morwr Stephen Thomas
Disgrifiadau
STEPHEN THOMAS
hanes morwr
Stephen Thomas dw i. Cefais fy ngeni ar Ionawr 5 1977. Dw i’n dod yn wreiddiol o Fro Ogwr a chefais fy magu yno, mewn ardal o gaeau gwyrdd, hyd nes oeddwn i’n ddeg pan symudodd fy rhieni i Ben-y-bont ar Ogwr a chefais ysgol yn y fan honno.
Roeddwn i bob amser yn rhedeg o gwmpas. Roeddwn i’n iawn gyda’r gwaith ysgol ond roedd gen i fwy o ddiddordeb yn yr agweddau corfforol, Addysg Gorfforol ac ati. Byddai mam yn rhoi pecyn o frechdanau jam i mi ar fore Sadwrn a fyddai hi ddim yn fy ngweld tan nos Sadwrn. Roedd hynny’n beth cyffredin yn y Cymoedd yn ne Cymru bryd hynny dw i’n meddwl.
Pan oeddwn i’n 18 cefais lid yr ymennydd, meningococcal septicaemia. Roeddwn i wedi mynd allan gyda’m cariad am y noson ond roeddwn i’n teimlo’n sâl. Ar ôl mynd â hi adref roeddwn i’n hynod o sâl ac roeddwn i felly drwy’r nos. Roeddwn i’n gweld pethau
ac roedd gen i dymheredd uchel iawn. Fore trannoeth, cefais fy nghymryd i’r ysbyty a dyna’r peth olaf dw i’n ei gofio i fod yn onest nes i mi ddeffro chwe wythnos yn ddiweddarach yn yr Uned Gofal Dwys.
colli fy nghoesau
Meningococcal septicaemia yw llid yr ymennydd. Mae pilennau’r ymennydd yn mynd yn llidus ac yna mae ail gymhlethdod gyda gwenwyno’r gwaed, ac mae hynny’n cychwyn yn rhannau allanol y corff, yn eich dwylo a’ch coesau, ac yna mae eich croen a’ch cnawd yn marw’n raddol. Mae’n debyg i ewinrhew I ddweud y gwir ac mae’n rhaid iddyn nhw dorri
aelodau o’ch corff i ffwrdd, neu bydd yr haint yn mynd i weddill eich corff, a byddwch yn marw. Felly dw i’n ffodus iawn fy mod yma o gwbl mewn gwirionedd. Dw i’n meddwl bod fy siawns o fyw’n dri deg y cant ar y pryd felly dw i’n ffodus iawn. Diolch byth bod gen i fy nwylo hefyd.
Unwaith roeddwn i’n ddigon iach, gallent wneud penderfyniadau am dorri fy nghoesau. Roedden nhw eisiau fy nghaniatâd. Ar ddiwedd y dydd, doedd hyn ddim yn benderfyniad dewr mewn gwirionedd. Dim ond un penderfyniad oedd. Ar y pryd roeddwn yn torri fy nghalon, yn meddwl na allwn chwarae rygbi byth eto, yn meddwl na fyddwn i
byth yn gwneud chwaraeon eto, a wyddoch chi beth, dw i’n cofio un o’r llawfeddygon yn dweud “Gelli di chwarae pêl-fasged cadair olwyn. Byddi’n iawn”, a dwi’n cofio dweud “Iawn, OK”. Roeddwn i’n chwarae rygbi cyswllt llawn. Doeddwn i ddim eisiau chwarae pêl fasged mewn gwirionedd. Dydw i ddim yn dda iawn am saethu pêl drwy gylchoedd beth bynnag. Ond dw i ddim yn meddwl bod dewis gennych ar ddiwedd y dydd wyddoch chi. Cewch eich rhoi mewn sefyllfa anodd na allwch fyth ei anghofio. Mae’n rhaid i chi ddweud “OK, beth ydw i’n mynd i’w wneud? Dwi naill ai’n mynd i eistedd yma ar fy mhen ôl am weddill fy mywyd neu dw i’n mynd i godi a gwneud rhywbeth”. Roeddwn i’n berson bywiog iawn cyn cael llid yr ymennydd, felly dywedais “Wel, dw i eisiau dal i fyw fel hynny”. Felly yn ôl i’r gampfa â fi a, cam wrth gam, es ar y peiriant cerdded, dechrau cerdded,
dechrau loncian, mynd yn ôl ar y pwysau. Rydych yn cymryd camau bychain, targedau bychain. Felly chwaraeon yn debyg iawn i hynny, a dw i’n meddwl bod bywyd felly hefyd. Cymerwch gamau bychain ac edrychwch i weld lle mae’n eich cymryd.
hoci sled
Dechrau ymddiddori mewn hoci sled ar iâ? Mae’n stori ddigon difyr. Roeddwn wedi chwarae hoci sled cyn dechrau hwylio. Roedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Daeth bachgen ataf a dweud “Wyt ti’n ffansïo chwarae hoci sled?” a dywedais “Beth ydy
hynny?”. “Hoci rhew ar slediau”. Wel, doeddwn i erioed wedi gweld hynny o’r blaen a dywedodd “Dere i lawr i roi cynnig arni”. Mi es a syrthiais mewn cariad ag e – cyswllt llawn, yr unig fath o chwaraeon Paralympaidd cysylltiad llawn sydd i’w gael – dechreuais gymryd rhan ac o fewn tri mis, dw i’n meddwl, roeddwn yn sgwad Prydain, dim ond oherwydd fy ngallu corfforol naturiol. Aethom ati i ymgyrchu ar gyfer 2002 ond ni chawsom le yn Utah, a meddyliais “Iawn, dw i am roi un cynnig arall arni” am mai fy uchelgais bob amser oedd mynd i Gemau’r Gaeaf. Aethom i Torino – dwi’n meddwl bod hynny ym mis Medi, 2005 – i geisio cael lle, gwnaethom hynny, curo cwpwl o dimau yno, ennill y gemau cymhwyso a chael lle yn y gystadleuaeth. 'Yna yn 2005 cafwyd Pencampwriaethau'r Byd, yn 2006 Pencampwriaethau Hwylio'r Byd, wedyn yn 2006 roedd y Gemau Olympaidd'. Felly roedd pedair Pencampwriaeth fawr o fewn chwe mis.
Mae hoci sled yn fath rhagorol o chwaraeon, cyswllt llawn, gyda’r un rheolau â hoci iâ a holl elfennau technegol hoci iâ hefyd. Gwahanol iawn i hwylio. Rydych yn mwynhau yr un teimlad o berthyn i griw, y bechgyn i gyd gyda’i gilydd yn yr ystafell newid a wahanol gyfresi sgiliau. Rydych yn eich gwthio eich hun ar sled. Mae’n debyg i dobogan, tobogan agored gyda dwy lafn hoci iâ ar y cefn a sedd wedi’i bolltio ar ei ben ac yna ffrâm siâp U hir a phifod ar y pen blaen. Rydych yn gorwedd yn fflat ar y rhew, ffon ymhob llaw, sbigynnau metel yng ngwaelod pob llaw i wthio i mewn ac mae llafn ar ben uchaf y ffon ac rydych yn saethu’r cnap fel yma, ac rydych yn ei reoli ac yna’n ei basio, yn sglefrio, sglefrio, driblo, sglefrio, sglefrio, driblo, bang, saethu i’r rhwyd! Mae’n chwaraeon rhagorol i fod ynddo. Os na fyddwn i’n llawn amser mewn hwylio, mae’n debyg y byddwn yn ymgyrchu ar gyfer 2014 mewn hoci sled.
hwylio
Chwaraeais hoci sled am gwpwl o flynyddoedd. Chawsom ni ddim ein dewis ar gyfer Gemau Gaeaf 2002 Utah a meddyliais “Iawn, wel, mae’n rhaid i mi ddechrau gwneud rhywbeth arall”. Roeddwn i yn Tesco un diwrnod ac roedd Cyfarwyddwr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru’n hongian allan o’I gadair yn y maes parcio ac mi es at ei ochr a dywedodd “Hei mêt, elli di ddod draw i roi help llaw I mi?”. Roedd e’n wynebu ymlaen felly doedd e ddim yn gwybod pwy oeddwn i, felly codais ef yn ei gadair,
ac yna mi es i siopa, heb feddwl mwy am y peth. Ddeufis wedyn, roeddwn yn Chwaraeon Anabledd Cymru, yn hyfforddi yn y gampfa, a daeth i mewn a dywedodd “Helo sut wyt ti? Mi wnest ti fy helpu i mewn i’m cadair ac roeddwn yn dy ddilyn ar frys o amgylch Tesco. Allwn i ddim dod o hyd i ti,” meddai. “Wyt ti’n ffansio mynd i hwylio?”. Doeddwn i ddim yn
siŵr. “Beth? Hwylio?”. Dywedodd “Rydw i newydd gael galwad ffôn gan British Sailing yn dweud eu bod angen rhywun gyda dy anabledd di a dy siâp di. Dos i’r cwch a gweld sut mae’n mynd”. A dywedais “Iawn, OK mi wna i”. Treuliais y chwe mis cynaf yn ansicr, yn syrthio allan, ond o fewn naw mis aethom i Bencampwriaethau'r Byd ac ennill medal efydd – heb hwylio erioed o’r blaen, a chefais dderbyn cyllid ... ac fel hynny y cychwynnodd popeth mewn gwirionedd. Roedd yn hollol newydd. Y peth agosaf i fynd ar gwch cyn hynny oedd mynd ar long i Iwerddon. Doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedd y gwynt yn dod, doeddwn i ddim yn gyfarwydd ag unrhyw dermau morwrol, ac roedd y ddau fachgen wrth fy ochr oedd wedi bod i Bencampwriaethau Byd, roeddent wedi’u magu yn y byd hwylio. Roedd yn ddigon anodd, yn ddigon anodd am oddeutu’r flwyddyn gyntaf ond roedden nhw’n amyneddgar. Ac roedd gennym hyfforddwr gwych hefyd, ac yn sylfaenol redden nhw’n fy nysgu wrth i mi fynd yn fy mlaen. Mae Hannah Stodal yn gwneud y tactegau – hi sy’n gwneud y penderfyniadau – ac mae John Robertson
yn gyrru. Fy ngwaith i yw’r brif hwyl, trimio a chyfathrebu rhwng y bobl ar y llyw a’r blaen. Byddaf yn gwneud rhai penderfyniadau wrth fynd ond fy rôl mewn gwirionedd yw sicrhau bod yr hwyliau wedi’u trimio a bod y cwch yn mynd yn gyflym. Maen nhw’n edrych am lifanwyr mawr, dynion mawr sy’n gallu gwneud y gwaith corfforol ar y cwch a gadael i rywun arall wneud y penderfyniadau. Mae fy ngallu corfforol yn gadael i mi wneud hynny.
Yn 2003, aethom i Bencampwriaethau’r Byd. Roeddwn wedi treulio saith, wyth mis mewn cwch. Roeddwn yn hollol newydd i hyn pan gamais i’r dŵr y diwrnod hwnnw, ond roedd yn wych. Dw i’n cofio bod yn ‘gorfforol bryderus’ gawn ni ddweud, cyn dechrau’r ras gyntaf ac ar y diwrnod cyntaf cawsom gyntaf ac ail. Roedd hynny’n ddechrau da ac aethom ymlaen, o nerth i nerth. Cawsom efydd ym Mhencampwriaethau cyntaf y Byd. Roedd hynny’n wych i ni, o gofio bod dau gwch yn system Prydain ar y pryd, ac roedd y dyn arall wedi ennill medal aur yn Sydney. Felly roedd ei guro ac yna gael ein dethol
oherwydd hynny’n gyflawniad gwych. Yng Ngemau Paralympaidd Athen yn 2004, syrthiais allan o’r cwch ar y ras gyntaf ar y diwrnod cyntaf, a dw i’n meddwl bod hynny wedi ein taro’n weddol galed i fod yn onest. Agorodd un o’r rhaffau roeddwn yn hongian oddi arni a daeth allan. Wnaethom ni ddim dod dros hynny’n seicolegol drwy’r wythnos gyfan mewn gwirionedd. Roedd yr amodau’n anodd, ond roeddem yn benderfynol ein bod yn mynd i ddyfalbarhau. Roeddent yn Gemau cyntaf siomedig. Ond, unwaith eto, gallwch edrych arnynt a dweud nad oedd unrhyw hawl gennym fod yno yn nhermau profiad, mae’r ffigurau’n awgrymu ei bod hi’n cymryd deng mlynedd i ennill medal aur Olympaidd neu Baralympaidd. Felly, petaem ni wedi ennill yn y fan honno, byddai wedi bod yn beth anarferol iawn. Dw i’n meddwl mai camgymeriad inni ddysgu ohono oedd hyn, ac rydych yn sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd eto. Mewn hwylio, y syniad yw aros yn y cwch ... ond mewn unrhyw chwaraeon, mae pethau’n digwydd.
Aethom ati i hyfforddi’n galed y gaeaf hwnnw ar gefn siomiant y Gemau. Aethom ati i wneud llwyth o oriau. Rydym yn ffodus ein bod yn llawn amser. Yn debyg i athletwyr y Gemau Olympaidd, mae athletwyr Paralympaidd yn mwynhau yr un manteision. Gwnaethom gamau enfawr ymlaen yn nhermau trin a hwylio cychod, ac roeddem yn drydydd wrth gychwyn diwrnod olaf Pencampwriaethau'r yn 2005, a daethom allan gyda medal aur. Dw i ddim yn meddwl bod hyn wedi’n taro ni ar unwaith. Mae llun ohonof i’n eistedd ar y rostrwm, yn eistedd yno’n ochneidio ac yn dweud “Dyna ni wedi ennill. O’r diwedd. Dwy flynedd o waith caled, hyfforddi’n llawn amser a gwireddu’r freuddwyd”.
2003 oedd yr amser gorau i fod yn onest, mynd ar lwyfan y byd a’ch sefydlu eich hun, sylweddoli eich bod yn gallu ennill medal ar lefel ryngwladol. Ond yna ennill gefn wrth gefn ym mis Ionawr 2006, Pencampwriaeth Byd arall, does neb wedi gwneud hynny erioed. Roedd y patrwm yn debyg hefyd. Roeddem yn ail yn mynd i mewn i’r diwrnod olaf a daethom allan ar y brig, ail a chyntaf ar y diwrnod olaf, a dyna sut y curon ni'r Almaenwyr. Chawsom ni ddim cychwyn da iawn yn Beijing. Effeithiodd y pwysau o'r tu allan rywfaint arnom, dw i’n meddwl, yn seicolegol. Wnes i ddim meddwl ein bod wedi delio ag ef yn dda iawn ac roedd fel gaseg eira mewn ffordd, yn rholio. Roedd chwe phwynt rhwng y saith cwch uchaf ar ddiwedd y gystadleuaeth. Os byddem wedi cael diwrnod gweddol ganol yr wythnos efallai y gallem fod wedi ennill medal. Dyna mor dynn
yw’r fflyd Sonar, y gallai deg cwch ennill medal. Rydym wedi gwneud llawer o waith ar hyn yn y flwyddyn ddiwethaf hon, gan ddweud “Rhaid i ti gadw dy ben i lawr. Rhaid dal i wthio ymlaen”.
Roeddwn i’n dal baner Prydain yn y Seremoni Agoriadol yn y pentref ac roedd hyn yn anrhydedd wych. Yr unig siom oedd peidio ennill medal. Dyna’r rheswm yr awn ni
yno, i’w ennill, i wneud ein gwaith. Felly, dydyn ni ddim wedi ennill unrhyw fedalau aur yn y Gemau Paralympaidd. Aethom i Athen a dod yn chweched. Aethom I Beijing a dod yn chweched. Rydym wedi llwyddo mewn meysydd eraill; ond dydyn ni ddim wedi ennill y fedal sy’n cyfrif. Rydym yn dal i fod gyda’n gilydd am ein bod eisiau ennill medal o’r Gemau, a’n cadw ni’n tri gyda’n gilydd yw’r ateb gorau i hynny.
Byddaf yno yn 2012 heblaw bod y broses ddethol yn awgrymu’n wahanol, ond fel tri rydym yn ymgyrchu gyda’n gilydd i ennill y fedal aur honno.
oll yn ddibwrpas?
O fod mewn perthynas gyda dau berson arall am saith mlynedd, rydych yn siŵr o gael pwyntiau uchel a phwyntiau isel; mae’n mynd i fod fel reid ffair. Ar ôl Beijing, ystyriais ddod adref, gan feddwl “Ydy hyn yn mynd i ddigwydd o gwbl? Ydyn ni i fod i wneud hyn?” ac eisteddais yn ôl a meddwl “Beth yw fy opsiynau?”. Dw i’n cael bywyd gwych fel athletwr llawn amser. Dyma rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed. Rwy’n cael bod yn un o’r systemau gorau yn y byd yn nhermau hwylio Prydeinig. Mae’r bois Olympaidd yn llawer uwch na phawb arall yn y byd ac rydym yn cael yr un manteision, a meddyliais “dw i wedi gweithio’n galed i gael hyn. Mae angen i mi fod mewn sefyllfa lle gallaf wireddu fy mreuddwydion ac os byddaf i’n rhoi’r gorau iddi nawr, dydw i ddim yn mynd i’w gyflawni a byddaf yn meddwl ‘Mi es i’n
anabl, a fyddai hynny oll yn ddibwrpas?”. Siaradais gyda chyfeillion a theulu a dywedodd y bobl hynny, “Ti ydy hwn. Dyma dy natur di. Dwyt ti ddim yn rhywun sy’n rhoi’r ffidil yn y to”, felly dywedais, “Iawn, ocê, awn amdani unwaith eto, tri
chynnig i Gymro”. Mae gennym wefan o’r enwthirdtimelucky.org. Y cwbl sy’n bwysig yw’r un gystadleuaeth honno ac mae mewn dwy flynedd, 29 Awst mewn dwy flynedd, felly rwy’n cyfri’r dyddiau.
blaenoriaethau
Wrth i chi fynd yn hŷn, mae eich blaenoriaethau’n newid, ac rydych yn dechrau ysu am sefydlogrwydd yn eich bywyd. Aethom allan i dreulio wyth i ddeg wythnos yn Miami ac roedd yn rhagorol, haul y gaeaf ac ati, ond rydych yn colli eich teulu, rydych yn colli eich cyfeillion, rydych yn colli eich gwely eich hun, yn colli eich cawod eich hun, wyddoch chi, ac yn colli cofleidio eich partner ac rydych yn dyheu am hynny. Ond dyna’r aberthau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i ennill medal aur ac rydym oll yn sylweddoli hynny. Mae’n rhaid i chi flaenoriaethu’r pethau rydych eu heisiau ar ôl i chi fynd adref a gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y pethau hynny.
addysg
Mae UWIC yng Nghaerdydd wedi bod yn amyneddgar iawn. Cychwynnais fy nghwrs gradd cyn i mi ddechrau hwylio a chyn i mi fynd i Athen yn 2004 a dywedodd yr hyfforddwr “Wnei di adael dy astudiaethau academaidd i ganolbwyntio ar chwaraeon?” ac roeddwn i’n methu penderfynu, ond yn y diwedd dyna wnes i. Rhoddodd UWIC ganiatâd i mi fynd yn rhan amser a chwblhau fy ngradd – mae’n gas gen i ddweud – mewn tua chwe blynedd, chwe neu saith blwyddyn, ond llwyddais i’w gorffen
yn y diwedd. Mae hynny’n bwysig am fod gyrfa mewn chwaraeon yn fyr ac mae angen rhywbeth arnoch I syrthio’n ôl arno. Felly, gobeithio y gallaf fynd i ddysgu neu hyfforddi neu rywbeth felly wedi i’m gyrfa yn y byd chwaraeon ddod i ben. Dw i wedi gweithio gyda rhai plant anabl hefyd, yn eu helpu, ac mae’n werth chweil gallu helpu pobl eraill i fanteisio ar gyfle. Mae gan Gaerdydd a Chymru raglen chwaraeon anabledd ragorol. Mae’n flaenllaw drwy’r byd i gyd, felly os gallaf i gymryd rhan yn honno mewn rhyw ffordd byddai hynny’n grêt.
chwaraeon y bobl gyfoethog?
Dw i’n dod o’r Cymoedd yn Ne Cymru felly dylai hynny dorri ar draddodiad i ddweud y gwir – y syniad traddodiadol bod hwylio a rhwyfo yn chwaraeon I bobl gyfoethog. Mae llawer iawn o waith ar droed i ddod â hwylio allan i’r gymuned, ac rwy’n dychmygu y bydd gan bob clwb hwylio yn yr ardal ysgol hwylio. Rwy’n caru’r rhyddid, yr annibyniaeth, ac mae cymaint o sgiliau y gallwn eu dysgu o hwylio: yr elfennau corfforol, y pethau technegol, rheolau, cefnogaeth cyd-chwaraewyr. Mae’n rhagorol I ddysgu ysbryd chwarae mewn tîm, mae’n rhaid bod yn gymwynasgar a chwrtais. Efallai na fyddwch yn teimlo hynny pan ewch allan ar y dŵr ond mae’r rheolau yno er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac mae pobl yn eu cadw fel arfer, felly mae hynny’n dysgu parch mawr i chi. Ac mae’n wych bod yn yr haul, y gwynt yn eich hwyliau, yn hwylio ym myd natur.
cymro i’r carn
Rwy’n Gymro i’r carn. Rwy’n caru bod yn Gymro, yn falch o’r famwlad, yn falch o’r teimlad cymunedol, y bobl, y ffordd mae pobl yn rhyngweithio â’i gilydd, wyddoch chi. Rwyf ar gwch gyda dau o Saeson ac mae’r ddau’n dod o ardaloedd hollol wahanol, un o’r de ac un o’r gogledd, ac rydym oll yn herian ein gilydd. Rydw i’n cael yr acen Bacistanaidd-Gymreig, a byddwn ninnau’n troi at y gogleddwr i ddweud ‘Why aye man’.
2012
Fy mreuddwyd yw ennill medal aur, does dim amheuaeth am hynny. Y cwbl sy’n rhaid ei gofio yw gwneud cyn lleied o gamgymeriadau ag y gallwn, ac yna, lle bynnag y down o ran safle, dyna ein safle ni. Roeddem yn rhoi llawer o bwysau arnom ein hunain yn Athen a Beijing i ennill medalau ac mae’n debyg mai dyna achosodd i ni fethu. Ni enillodd y
gystadleuaeth brawf cyn Beijing yn 2008 felly cawsom aur yn y fan honno, yn yr un ganolfan dri mis ynghynt a ni oedd y ffefrynnau ... a chweched lle gawsom ni.
Felly gall unrhyw beth digwydd mewn hwylio, dyna ei natur, ac rydym yn mynd i geisio rhoi perfformiad gyda chyn lleied o feiau ag sy’n bosibl i ddweud y gwir. Yna, gobeithio, ar y diwrnod olaf, byddwn mewn sefyllfa I ennill medal. Roeddem yn bedwerydd ym Mhencampwriaethau'r sydd newydd fod, roeddem naw pwynt o fod yn gyntaf ac roeddem mor agos at ennill. Dim ond colli’r aur ar brotest wnaethom ni. Dyna pa mor dynn ydyw yn nhermau’r fflydoedd Sonar. Gall unrhyw beth ddigwydd. Felly rydym yn mynd i gadw ein pennau i lawr, dal ymlaen i weithio a gweld lle’r ydym. Dw i’n meddwl y bydd Cymru’n llwyddiant enfawr yn nhermau chwaraeon Paralympaidd yn 2012, a bydd yn ychwanegu gwerth i’r bwrdd Olympaidd hefyd. Gobeithio y caf fedal ond rhaid hefyd gadael hanes
da, sicrhau bod datblygiad yn digwydd ar dir gwlad a defnyddio hyn fel llwyfan i sicrhau bod chwaraeon ar yr agenda yng Nghymru yn 2016 a 2020.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment