Skip to main content

Cyfweliad gyda'r beiciwr Simon Richardson

Disgrifiadau

SIMON RICHARDSON
hanes beiciwr

Dw i’n seiclo gyda thîm Prydain. Dw i’n seiclo ar y trac ac ar y ffordd. Dim ond trydanwr oeddwn i, rhywfaint o reidio beic modur, rhywfaint o gerddor-iaeth. A dyna i gyd. Darganfyddain seiclo ar ôl i mi gael damwain ar fy meic modur. I wella, dechreuais seiclo, a dechreuais ei fwynhau.

2001 oedd hi. Cefais fy nharo gan gar oedd yn teithio 60 milltir yr awr. Torrais fy nghefn mewn dau le, a malu’r asgwrn yn fy nghoes dde. Ar ôl pum mlynedd o lawdriniaethau a meddyginiaeth, roedd yr anafiadau wedi’u trwsio ond roedd gen i niwed parhaol i’r nerfau i lawr ochr chwith fy nghorff, diffyg pŵer, diffyg cydsymud.

Es i lawr at y Port Talbot Wheelers i sesiwn agored – y tro cyntaf erioed i mi fynd ar y trac. A mwynhau. Mi es yn ôl ac roedd un neu ddau o bobl yno’n fy annog i barhau. Dechreuodd rywun sgwrsio gyda mi am seiclo i’r anabl a doeddwn i erioed wedi clywed amdano o’r blaen. Cefais fy nhroi i’r cyfeiriad cywir. Gwnes un flwyddyn ar fy mhen fy hun a chwpwl o rasys lleol, a dechrau ei fwynhau, ac yna cefais alwad ffôn, tua Ebrill 2007 yn gofyn i mi a hoffwn i fynd i Bilbao gyda’r Tîm Prydeinig. Roedd rhywun wedi bod yn fy ngwylio, ond wyddwn i ddim pwy yn union.

Dydw i erioed wedi bod yn gystadleuol. Doeddwn i erioed wedi mwynhau chwaraeon yn yr ysgol. Cefais fy nghyflwyno i seiclo pan oeddwn i’n 32, yn hwyr iawn. Os byddwn i wedi dechrau mwynhau seiclo yn yr ysgol, does a ŵyr lle byddwn i wedi cyrraedd erbyn hyn. Efallai y byddwn i wedi bod yn dda iawn. Dyma’r unig fath o chwaraeon yr ydw i wedi’i garu go iawn. Dw i’n meddwl mai’r rhyddid rydw i’n ei fwynhau, y golygfeydd ac weithiau’r cyfle i fod ar eich pen eich hun.

fformiwla un

Mae’r beiciau trac i gyd wedi’u llunio gan fechgyn Fformiwla Un. Mae pob beic wedi’i brofi yn y twnel gwynt. Dw i’n meddwl bod Chris Hoy wedi treulio tua phedair awr mewn twnel gwynt un diwrnod dim ond er mwyn ceisio paratoi’r beiciau. Mae’r bobl abl eu cyrff yn gwneud llawer o waith paratoi gyda beiciau, yna maen nhw’n ein cymryd ni i mewn ac yn llunio beiciau i ninnau hefyd. Rydym yn cyfnewid a chymysgu, yn rhannu offer, yn rhannu pa brofiad bynnag sydd gennym gyda’r abl eu cyrff.

Y cwbl sy’n wahanol ar fy meic i yw cranc byr. Dw i’n reidio cranc 165 arferol ar un ochr a chranc 6cm ar y llall. Mae hyn yn fy rhwystro rhag dweud celwydd am fy anabledd, oherwydd rydych yn rasio yn erbyn pobl gydag un goes, a byddai’n hawdd i rywun gymryd arnynt bod ganddynt niwed i’r nerfau a chael beic gyda chranciau o hyd arferol ac yna rasio gyda mantais dros bawb arall. Felly, trwy ddefnyddio cranc byr, does dim modd twyllo. Dyna’r unig addasiad sydd gen i ar fy meic. Dim byd arall o gwbl.

Mae’n debyg mai fy llwyddiant go iawn cyntaf oedd mynd yn ôl ar feic ar ôl y ddamwain! Ond mae’n debyg mai fy llwyddiant mewn tîm oedd Grand Prix Cymru 2006, sef fy nghystadleuaeth go iawn gyntaf. Yna roedd hi’n 2007 ac enillais Gyfres Dreialon Amser Anabl y DU, ac enillais honno eto eleni. Roedd yn rhaid i ni reidio yn nillad y clwb. Felly, er mai tîm Cymru oeddem ni, roedd yn rhaid i ni reidio yn lliwiau ein timau lleol ein hunain am nad oes y fath beth â thîm Cymanwlad Cymru. Does dim digon ohonom.

beijing

Roeddwn eisiau ennill y fedal aur ac roeddwn yn gwybod fy mod yn domestique yn y ras ffordd, gyda fy nghyfaill o’r tîm. Dyna oedd fy nau darged, un aur ac un domestique. Roeddwn i ffwrdd o adref am oddeutu dri mis. Es i Ghent yng Ngwlad Belg, yna es yn ôl i Gasnewydd am wythnos, yna i ffwrdd â fi i’r Swistir. Yna i fyny i Fanceinion, y gwersyll aros. Cawsom lawer o hyfforddiant yn y siambr wres ym Manceinion. Gwnaethom lawer o ymarfer yn y mynyddoedd yn y Swistir, hyfforddiant ar uchder. Nid newid dwyster yr hyfforddiant oeddem ni, ond gwneud math gwahanol o hyfforddiant mewn lle gwahanol.

Roeddem ar yr awyren am ddeng awr yn mynd allan, gan deithio dosbarth busnes er mwyn gwneud yn siŵr na fyddem wedi blino. Ni, wedi’r cwbl, oedd y cystadleuwyr cyntaf. Roeddem yno am wythnos o flaen llaw, ond roedd yn rhaid iddynt sicrhau nad oedd lludded jet arnom ni felly cysgodd pawb ar y ffordd allan. Ar y ffordd yn ôl roedd 299 o athletwyr a llawer o siampên. Roeddwn wrth fy modd gyda hynny. Roedd gan British Airways hysbyseb ar ôl hynny. Welsoch chi honno? Roedd hi’n un wych, “British Airways are very happy to give extra luggage space for our Olympians”. Dw i’n cofio meddwl “Pam y lle ychwanegol?” gan feddwl bod ganddynt roddion i ni i gofio’r trip, ac yna sylweddolais mai sôn am bwysau ychwanegol y medalau aur yr oedden nhw.

Roedd dod yn ôl yn rhyfedd. Doedd dim hawl i ni ddod oddi ar yr awyren i ddechrau. Roedd yn rhaid i ni aros yno am dri chwarter awr am fod yn rhaid iddynt symud y tîm arall allan yn gyntaf, nid y rhai Prydeinig. Daethom allan i gymeradwyaeth gan holl staff y tir. Roedd pawb yno. Roedd y Prif Weinidog yno, roedd Tessa Jowell yno, pobl o’r papurau newydd. Roedd ganddynt griwiau camera yno, Roeddech yn cerdded i lawr y coridor ac roedd pawb yn stopio, gweithwyr y tollau i gyd yn sefyll ac yn cymeradwyo. Ac roeddech yn dod i’r darn tu allan ac roedd pobl ymhob man yn curo dwylo.

Roedd hyn yn sioc – doedd neb yn gwybod yn Beijing faint y byddai’r hyn a wnaethon wedi heffeithio ar bobl adref. Pan oeddem draw yn Beijing roedd gennym ddeuddeg sianel, oll yn dangos y cystadlaethau, un yn arbennig ar gyfer y seiclo, un yn arbennig ar gyfer y trac a’r maes, un ar gyfer y nofio, a dyna i gyd. Felly, pan ddaethom allan a gweld hyn i gyd, roedd yn sioc fawr i’r system.

Fel arfer byddai un neu ddau o’n hathletwyr efallai’n gwneud yn dda iawn, ond am fod gennym dîm seiclo mor dda – gwnaeth y tîm nofio’n dda, yr hwylwyr yn reit dda, yr athletwyr yn reit dda, roedd gennych y tîm marchogaeth hefyd – dw i’n meddwl am fod cynifer o bobl wedi gwneud yn dda, roedd y Prydeinwyr yn cymryd sylw, yn hytrach na dim ond Tanni, oedd fwy ar ei phen ei hun na dim arall.
Ac mae’n anodd canfod barn y cyhoedd, y syniad cyhoeddus am yr hyn y gall pobl anabl ei wneud go iawn, os mai dim ond un person sydd. Rhoddodd hyn lawer mwy o obaith i lawer o bobl, rhywbeth i’w gymeradwyo.

Fy argraff gyntaf o Beijing oedd y pentref. Roedd yn enfawr. Cawsom ein gollwng gan y bws ac rydych yn mynd trwy’r lle gyda’r swyddogion diogelwch sy’n sganio eich beiciau ac yn rhoi eich cardiau i chi er mwyn i chi allu mynd i mewn ac allan. Ac i gyrraedd ein fflat, rhaid iddynt ein cymryd mewn bws o’r fynedfa am ei fod yn rhy bell i ffwrdd. Roedd tua thri chwarter milltir i’w gerdded. Roedd y neuaddau bwyd yn gwerthu bwyd bob awr o’r dydd a’r nos. Mae’n sioc i’r system, bod cymaint o bobl mewn un lle, yn orlawn ag athletwyr ym mhob man, y staff a’r holl bobl Tsieineaidd yno, oedd weithiau’n rhy awyddus i helpu.
Dim ond ar gyfer y Seremoni Gloi yr es i stadiwm Nyth yr Aderyn. Roedd yn orlawn pan es i yno, ond dw i’n gwybod ei fod yn llawn bron bob dydd. Roedd gan y Velodrome 6,000 o bobl ynddo bob dydd. Dydw i erioed wedi rasio gyda chymaint o bobl yn cymeradwyo go iawn. Byddai’r Tsieineaid, os nad oedd cystadleuwyr Tsieineaidd yn cymryd rhan, yn mabwysiadu pa bynnag wlad oedd yn eistedd agosaf atynt; byddai’r Tsieineaid yn troi’n Awstraliaid neu’n Brydeinwyr ac yn cymeradwyo pwy bynnag yr oeddent yn eistedd agosaf atynt, sydd eto’n arfer rhyfedd. Ac hefyd mae’r tonnau Mecsicanaidd yn eich dilyn o gwmpas wrth i chi seiclo, wyddoch chi. Dydych chi ddim yn gwybod hynny wrth i chi seiclo, ond fe welwch e’n digwydd ar y fideo. Roedd yn brofiad hollol unigryw.

Yn y ras gyntaf, y cilomedr, es i mewn yno’n meddwl y gallwn gwblhau mewn 1 funud 16 mae’n debyg. Roedden ni’n gwybod y gallai munud 16 ennill, ond roedd Fajita, y reidiwr o Japan wedi gwneud 16 sicr y flwyddyn honno, er nad oedd wedi gwneud hynny’n swyddogol. Felly roeddem yn gwybod bod posibil-rwydd o gael medal. Roedd yn rhaid i mi gystadlu yn erbyn pobl mewn categori anoddach na fi, ac roedden nhw’n gallu gwneud 1 funud 21 fyddai’n gyfartal â thua 1.17 neu 1.16. Oherwydd hynny roedd hi’n anoddach eu curo. Ond i mewn â fi. I ddweud y gwir, es amdani heb feddwl, a dod allan gyda 01:14:09. Roedd chwe chystadleuydd i fynd ar fy ôl ac roeddwn i’n mynd o gwmpas y lle oeri gyda fy rheolwr a darn o bapur yn rhoi tic wrth bob enw, yn aros am Fajita oedd yn cystadlu olaf ond un, a’r Ball gwych, yr LC4 o Awstralia, cyn-ddaliwr y teitl Paralympaidd, oedd yn cystadlu olaf. Aros ac aros ac yna daeth Fajita i mewn gyda 1.17. Roedd wedi mynd i banig. Roedd yn cynhesu’n braf pan welodd fi’n gwneud yr 1.14 ac aeth curiad ei galon drwy’r to. Yn ôl ei hyfforddwr, gwnaeth ormod o ymdrech yn ei gais i’m curo i a doedd ganddo ddim byd ar ôl.

Yna’r tri chilomedr. Mae dau ddarn i hwnnw. Mae’n rhaid i chi wneud yn ddigon da yn y bore i gael lle yn y ras derfynol. Yna, rydych yn rasio, bum awr yn ddiweddarach. Yn y bore, yn y rowndiau cyntaf, aeth Fajita allan i’r gwres cyn fi a thorri record y byd a’i ghymryd i lawr i 3.52. Yna, bum munud ar ei ôl, es innau a’i thynnu i lawr i 3.48, felly daliodd record y byd am bum munud. Rhoddodd le i’r ddau ohonom yn y rownd derfynol. Roedd ef ar y blaen am y chwe lap cyntaf, a dyna’r oeddem yn ei ddisgwyl, ond daliais ymlaen i seiclo ar yr un cyflymder, lapiau 17 eiliad, lapiau 18 eiliad, a dechreuodd yntau arafu, a gyda thri lap i fynd, gallwn ei weld. Roeddwn ar yr un darn syth ag ef ac roeddwn i’n gwybod mai i fi y byddai’r aur yn dod.

Wedi hynny, dechreuais rasio ar y ffordd. Mae’n dreial amser, tua deuddeg milltir yn fras, a chododd y tymheredd i ddeugain gradd neu fwy y diwrnod hwnnw. Roedd hi’n chwilboeth. Cefais y wobr arian yn hwnnw.

Roeddwn i ar y blaen, yn arwain nes i’r reidiwr olaf groesi’r llinell a chollais yn y diwedd o 23 eiliad.

Y diwrnod wedi hynny cafwyd y ras ffordd ac roeddwn yn domestique i’m cyfaill ar y tîm, Darren Kenny. Ar y dechrau roedd gennym ychydig dros 30 o reidwyr. Ar y lap gyntaf roedd yn rhaid i mi wneud hynny i gyd ar y blaen fy hun i geisio gwahanu’r pac. Collwyd deg reidiwr. Yna roeddwn i’n diogelu Darren rhag pob ymosodiad. Gydag un lap i fynd roedd yn rhaid i ni guro dau reidiwr oedd ar y blaen, a chael Darren o fewn deng eiliad. I ffwrdd ag ef ar yr allt a chafodd fedal aur. Roeddwn i wedi gwneud fy ngwaith.

medalau neu recordiau?

Dydw i ddim yn cofio llawer am y seremonïau medalau. Roedd popeth yn digwydd ar frys am fod yn rhaid i ni gael profion cyffuriau a chyfweliadau ar gyfer y rasys un cilomedr a thri chilomedr. Felly dim ond o weld y fideos wedyn yr ydw i’n eu cofio. Yn yr un tri chilomedr roedd gen i tua chwarter awr wedi i mi ddod oddi ar y beic, cael fy nghodi oddi ar y beic, a chael fy rhoi ar feic llonydd i oeri, cyn mynd i fyny i’r seremoni fedalau. Bu bron i mi lewygu yn ystod seremoni’r tri chilomedr. Am fy mod wedi rasio ar y 7fed a’r 9fed, ac yna wedi cael diwrnod neu ddau’n rhydd, ac yna wedi rasio eto, ac eto, dydych chi ddim yn cael amser i feddwl amdano. Allwch chi ddim fforddio meddwl am fedalau a seremonïau oherwydd bydd yn effeithio ar eich ras nesaf. Felly, rydych yn mynd i fyny i nôl eich medal, rhoi cyfweliad ac i ffwrdd â chi. Dechrau hyfforddi eto.

Dydy’r medalau ddim yn golygu llawer i mi. Pŵer torri recordiau byd ydy’r peth pwysicaf i mi. Ond y rhan orau o Beijing oedd y ras ffordd a mwynheais hynny’n fwy na dim, gweithio gyda Darren a chael medal aur iddo ef yn hytrach nag i mi.
god save the queen?

Byddwn wedi hoffi cael anthem arall! Efallai y byddai anthem arall wedi effeithio ychydig mwy arna i. Dw i’n Gymro cyn Prydeiniwr.

Mae bod yr unig Gymro llawn yn y tîm yn anodd. (Mae gennym beilot i’r merched sydd hefyd wedi’i chategoreiddio’n Gymraes, ond dim ond yn ‘ffiniol Gymraes’ fel y mae’n hi’n ei ddweud.) Roeddwn i eisiau draig goch ar fy nghrys Prydeinig, ond roedden nhw’n gwrthod gadael i mi oherwydd rydych yn cael dirwy am gael unrhyw beth arall, felly cefais datŵ o’r ddraig goch ar fy nghoes. Rhoddwyd rhyw fath o orchudd drosto, a chafodd hynny lawer o sylw tra’r oeddwn i allan yno. Mae’n anodd ond mae’n rhaid i chi ei wneud e. Does dim tîm anabl y Gymanwlad i Gymru felly alla i ddim gwisgo crys Cymru yn unrhyw le o gwbl.

Gwnaeth Cymru’n well na phawb os ydw i’n cofio’n iawn. Yn ôl pen y boblogaeth, rydym ar frig y bwrdd am ennill medalau ac mae’n rhagorol beth wnaethom i gyd. Does gen i ddim syniad o lle daeth hyn, pam fo Cymru’n perfformio mor dda. Dw i’n gwybod bod llawer o bobl yn y timau proffesiynol yn prynu tai yng Nghymru fel y gallant hyfforddi ar y mynyddoedd draw fan hyn.

llundain 2012

Hoffwn ddweud ie i Lundain. Os cânt hyd i athletwr iau sy’n gyflymach na fi yna dw i’n barod i gamu i lawr. Rwy’n bwriadu hyfforddi ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd yn gyntaf, am y tair blynedd nesaf ac yna, gobeithio, fynd i 2012. Cawn weld.

(In August 2011 Simon Richardson was knocked off his bike by a drunk-driver while out training for London 2012.)

Owner:
Following the Flame ~ Dilyn y Fflam
Crëwr:
Phil Cope & Andrew Griffiths
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
17/11/08
Eitem wedi’i llwytho:
8/7/2014
Gwelediadau:
2225
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment