Cyfweliad gyda'r nofiwr Sam Hynds
Disgrifiadau
SAM HYNDS
hanes nofiwr
Sam Hynds yw f’enw i. Ces fy ngeni yn 1991 ac rwy’n byw yn Ravenhill, Abertawe. Ar hyn o bryd rwy’n nofio gyda thîm Perfformio Abertawe. Bues yn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd Beijing. Enillais fedal aur a medal efydd gyda dwy record Byd ac Ewropeaidd.
Oherwydd fy anabledd fedrwn i ddim rhedeg o gwmpas cae pêl-droed na chwarae rygbi nac unrhyw gamp gyswllt gan fod fy nghoes yn brifo gormod, felly roedd nofio yn gamp berffaith i mi. Mae’n debyg mai’r elfen gystadleuol yw’r hyn rwy’n ei fwynhau.
beijing
Beijing yw’r lle pellaf imi fod iddo erioed ac roedd yn wlad wych. Roedd cymaint o bethau’n ffrwydro ac roedd goleuadau ym mhobman. Roedd hi’n sioe wirioneddol dda.
Billy Pye yw fy hyfforddwr personol. Rwy’n hyfforddi naw gwaith yr wythnos, bob bore. Bore Llun, Mercher, Gwener a Sadwrn, rydym yn codi am bump o’r gloch ac yn y pwll erbyn chwech. Rwy’n hyfforddi bob min nos, ddwywaith yn y gampfa, unwaith ddydd Mawrth ac unwaith ddydd Iau ac, wrth inni fynd i gystadleuaeth, rydym yn dechrau hyfforddi llai a llai a, thrwy hynny, rydych yn cael ychydig bach mwy o orffwys. Wedyn, rydych yn teimlo’n wirioneddol ffres ac yn gallu nofio’n gyflym.
Mae angen llawer o brotein arnoch, a charbohydradau, felly mae eisiau pasta, tatws drwy’u crwyn, llawer o gig, stêcs, unrhyw beth y gallwch gael gafael arno, arnoch. Cyn belled nad ydych yn bwyta McDonalds, does dim llawer o ots. Cyhyd â’ch bod yn bwyta’n iach, yn bwyta’n dda, a’ch bod yn cael digon o orffwys, yna rydych yn barod i fynd.
Rydych yn dyheu am gyrraedd a gwneud eich gorau. Bob Gemau Paralympaidd, mae pobl yn mynd yn well ac yn well ac yn well. Mae’r cyffyrddiad rhwng y rasys yn mynd mor fach fel ei bod yn fwy a mwy anodd ennill, felly rhaid i chi ddal i wella o hyd.
Fe wnes i hyfforddi’n wirioneddol galed ar gyfer y fedal aur yn Beijing. Roeddwn wedi torri’r record byd tua phum gwaith y flwyddyn flaenorol, felly roeddwn yn gwybod y gallwn ennill. Roedd yn fater o berfformio ar y diwrnod, ac yna, pan gyffyrddais i, roedd codi mor gynnar yr holl foreau hynny, roedd yn gwneud popeth yn werth chweil. Fe gofiaf hynny weddill fy oes.
2012
O edrych yn ôl ar Gemau Paralympaidd Beijing, daeth mwyafrif y medalau yn ôl i garfan Berfformio Abertawe, felly o ystyried fel mae pawb ohonom yn nofio ar y funud, does gen i ddim amheuaeth y bydd pethau yr un fath ac yn well yn Llundain.
Ac edrych ymlaen at Lundain 2012, rwyf eisiau ennill aur yn y 400 dull rhydd a chadw’r teitl o Beijing a chael cynifer â phosib o fedalau, a cael yr amser gorau erioed. Maen nhw’n Gemau cartref. Nid yw byth yn mynd i ddigwydd eto, felly byddaf yn gwneud fy ngorau.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment