Skip to main content

Cyfweliaf gyda'r chwaraewr rygbi Nigel Walker

Disgrifiadau

NIGEL WALKER
stori chwaraewr rygbi

Fe’m ganed ar y 15fed o Fehefin 1963, fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, ac fe es i Ysgol Gynradd Greenway. Yr atgof cyntaf sydd gen i yw chwarae pêl fas … a rygbi. Teimlais mod i’n eitha da am chwarae rygbi ac, yn bwysicach fyth, roeddwn i’n mwynhau’r gêm. Rygbi, felly, oedd fy nghariad cyntaf. Fe es i Ysgol Gyfun Tredelerch lle’r oedd dylanwad fy athro addysg gorfforol yn fawr arnaf. David Williams oedd ei enw ac roedd e’n awyddus imi gyflawni cymaint ag y gallwn mewn chwaraeon. Roedd fy rhieni, ar y llaw arall, am i mi roi fy mhen yn y llyfrau. Fe gofiaf yn dda eiriau fy nhad, “Chei di fyth ddim byd allan o chwaraeon. Mae angen i ti gael cymwysterau a mynd allan i gael swydd go iawn”. Dyna’r math o gefndir sydd gen i, tensiwn rhwng tueddfryd naturiol i ymgymryd â chwaraeon a fy rhieni’n dweud wrthyf, “Mae angen i ti weithio’n galetach”.

dewisiadau
Yn ôl rhai pobl, “Daw lwc i ran y rhai sy’n dangos parodrwydd”. Diwrnod chwaraeon yr ysgol oedd hi yn Ysgol Gyfun Tredelerch. Roeddwn i’n digwydd cerdded heibio’r llinell gychwyn pan nad oedd golwg yn unman o’r sawl a oedd i fod i rasio dros y clwydi. Meddai’r athro addysg gorfforol wrthyf, “Wnei di gystadlu er mwyn cael pwynt?” Ychydig funudau’n ddiweddarach, y fi oedd pencampwr clwydi’r ysgol, un o’r trobwyntiau hynny lle newidiodd popeth, dim ond am fy mod yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr amser iawn.
Cefais fy magu yng nghyfnod Gareth Edwards, JPR Williams a Gerald Davies, ac roeddwn i’n arfer mynd lawr i Glwb Rygbi Caerdydd a sefyll ar y terasau i wylio’r cewri hyn. Roedd rygbi yn fy ngwaed. Pan oeddwn yn 14 neu’n 15 oed, heb unrhyw fwriad penodol, dechreuais wneud ychydig o athletau, a dyna pryd y cefais gefnogaeth lwyr gan Mr Williams. Enillais gwpwl o Bencampwriaethau Sirol a theitl Ysgolion Cymru. Yna, ar ôl fy mhen-blwydd yn 18 oed, cefais Dreial Rygbi Terfynol i chwarae i Gymru. Roeddwn eisoes yn Nhîm Athletau Iau Prydain. Roedd yn rhaid dewis. Wnes i ddim llwyddo i gyrraedd Tîm Rygbi Ysgolion Cymru – y capten ar y pryd oedd Stuart Barnes o Ysgol Bassaleg – felly penderfynais roi fy wyau i gyd yn y fasged athletau.
Ddeg ar hugain o flynyddoedd yn ôl, roedd pobl yn arfer cyfuno’r ddau beth. Roedd gan JJ Williams yrfa mewn athletau yn ogystal â rygbi, ond roeddwn i’n teimlo, os oeddwn i am fod yn athletwr go iawn, bod yn rhaid imi fynd ati i ymarfer o ddifrif, chwe diwrnod yr wythnos, ac os ydych chi’n ymarfer chwe diwrnod yr wythnos ar gyfer athletau, nid oes llawer o amser ar ôl ar gyfer chwaraeon eraill.
Wrth edrych yn ôl ar fy ngyrfa mewn chwaraeon nawr, byddaf yn meddwl, “O, roedd hynna’n arwyddocaol iawn”. Dwi’n cofio pan oeddwn i yn y chweched dosbarth yn chwarae i dîm yr ysgol yn erbyn yr athrawon a chael hwyl eitha da arni. Daeth Mr Williams ataf ar ddiwedd y gêm a dweud, “Fe allet ti gael gyrfa o’r radd flaenaf mewn rygbi!” Wnes i ddim hyd yn oed meddwl am y peth! Dwi’n cofio cyrraedd ar gyfer Pencampwriaethau Iau Prydain yn 17 oed, i gystadlu yn y grŵp o dan 20 oed, a cherdded oddi yno ar ddiwedd y dydd wedi ennill, gan guro rhai a oedd ddwy a thair blynedd yn hŷn na fi. Dim ond ddwywaith yr wythnos oeddwn i’n ymarfer yn yr haf a meddyliais, “Mi allwn i gael gyrfa eitha da yn gwneud hyn”. Fe es i’r Gemau Olympaidd pan oeddwn yn 20 neu’n 21 oed, ac rydych yn meddwl, “Wel, os galla i wneud hyn yn 20 neu’n 21 oed, a ddim ond wedi bod yn ymarfer chwe diwrnod yr wythnos am ychydig dros flwyddyn, beth arall allwn i ei gyflawni?” Felly, mae pethau’n mynd drwy eich meddwl, ac efallai nad ydyn nhw’n arwyddocaol ar y pryd. Dydych chi ddim yn meddwl, “Dyna fo, dwi’n mynd i gael gyrfa ryngwladol am 10 neu 12 mlynedd”, ond, pan ydych chi’n edrych yn ôl, rydych yn meddwl, “Oedden wir, roedd yr adegau hyn yn arwyddocaol”.

proffesiynol
Ac eithrio’r ddwy neu dair blynedd ddiwethaf fel chwaraewr rygbi, roedd gen i swydd amser llawn neu ran-amser. Es i weithio i’r Gwasanaeth Sifil pan oeddwn yn 18 oed a gweithio yno am ddeng mlynedd. Roedd y Gwasanaeth Sifil yn eithaf hyblyg bryd hynny; os oeddwn i eisiau gwyliau arbennig heb dâl, er mwyn rhedeg dros Brydain neu dros Gymru, gallwn gymryd yr amser o’r gwaith. Golygai hyn mod i’n gallu cyfuno’r ddau beth, a chadw fy rhieni’n hapus hefyd, oherwydd bod gennyf yrfa. Os ydych chi’n cymharu hyn â’r sefyllfa heddiw, mae bron i bob athletwr rhyngwladol, yn enwedig os ydyn nhw’n debygol o fynd drwodd i’r rowndiau terfynol neu ennill medalau, yn athletwyr amser llawn ac yn cael eu noddi gydag arian y Loteri, naill ai ar lefel leol yng Nghymru (Chwaraeon Cymru), neu ar lefel Prydain gan UK Sport, trwy eu corff llywodraethu.
Dim ond pan oeddwn i’n 32 neu 33 oed y dechreuais chwarae rygbi fel gwaith amser llawn. Does dim llawer o amser ar ôl i’w roi i’r gêm pan ydych chi’n 32 neu’n 33 oed, ond roedd y gêm newydd droi’n broffesiynol yn 1995 a dywedodd Clwb Rygbi Caerdydd eu bod eisiau i’w chwaraewyr fod yn rhai proffesiynol.

dyma ni
Enillais fedal efydd ym Mhencampwriaethau Dan Do Ewrop a medal efydd ym Mhencampwriaethau Dan Do y Byd yn 1987. Roeddwn yn bedwerydd ym Mhencampwriaethau Awyr Agored Ewrop yn 1986, gan osod ambell i record bersonol ar hyd y ffordd … braidd yn anlwcus yn y ras derfynol, ddim digon da fyddai rhai pobl yn ei ddweud. Roedd hon yn record bersonol i mi ond trewais saith o’r clwydi. Pe bawn i heb wneud hynny, neu heb daro cynifer ohonyn nhw, byddwn wedi ennill medal, a byddai hynny wedi bod yn gryn sioc ar y pryd.
Roedd mynd i’r Gemau Olympaidd yn Los Angeles yn 1984 yn brofiad a hanner, wrth gwrs, ond syrthiais yn y ras gynderfynol, felly roedd yn brofiad chwerwfelys. Ond, wyddoch chi, ar ôl cael fy magu ar Nadia Comaneci, Olga Korbut ac Ed Moses, roedd cael fy newis i fynd i’r Gemau Olympaidd yn gyflawniad aruthrol i mi a bydd yn aros yn fy nghof am weddill fy oes, does dim dwywaith am hynny! Dwi’n cofio cyrraedd y maes awyr a gweld Steve Cram ar un ochr, Sebastian Coe, Steve Ovett, Zola Budd, a meddwl, “Nefi wen, dyma bobl roeddwn i’n eu haddoli ddwy flynedd yn ôl a dyma ni nawr ar awyren i fynd i’r Gemau Olympaidd gyda’n gilydd”. Roeddwn i’n rhannu ystafell gyda Phil Brown, y rhedwr ras gyfnewid, ac Alan Wells a oedd yn amddiffyn ei deitl yn y ras 100m, Seb Coe, Mark Naylor, y neidiwr uchel, ac rydych chi’n meddwl, “Dyma ni!”. Maint yr holl beth, dal bysiau o’r trac ymarfer i drac y gystadleuaeth, cerdded i mewn i Golisewm Los Angeles a gweld 90,000 o bobl yno a meddwl, “Roeddwn i’n arfer gwylio hyn ar y teledu a meddwl ei fod yn anhygoel. A nawr, dwi’n mynd i fod yn rhan ohono”. Mae’n beth gwirioneddol anodd ei ddirnad. Sut deimlad, felly, fyddai ennill medal Olympaidd a, feiddiwn i ddweud, medal aur? Duw a ŵyr. Ond roedd fy mreuddwydion i wedi cael eu gwireddu bryd hynny, dim ond trwy fod yn y Gemau.

cymru / prydain
Dwi’n Gymro i’r carn. Dwi hefyd yn Brydeiniwr, ond mae’r balchder a deimlais wrth wisgo jersi Cymru bron yn amhosib ei ddisgrifio. Er mod i’n gweithio i Sefydliad Chwaraeon Lloegr, mae pawb yr ydw i’n gweithio gyda nhw yn gwybod mai Cymro ydw i a mod i’n falch o fod yn Gymro.
A ddylai Cymru gael ei thîm Olympaidd ei hun? Nid yw hyn yn peri anhawster i mi. Rhedais yng Ngemau’r Gymanwlad yn 1986 ac yn 1990. Roeddwn yn falch iawn o gael rhedeg dros Gymru. Roeddwn yn falch o gael chwarae dros Gymru. Ond roeddwn yr un mor falch o redeg dros Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y Gemau Olympaidd ac ar 29 achlysur arall. Felly y bu hi gydag athletau erioed. Roeddwn eisiau rhedeg dros fy ysgol yn y lle cyntaf, ac yna dros y sir a, phan ddechreuais redeg dros Gymru, roeddwn i’n llawn balchder. Roeddwn eisiau rhedeg dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Fe lwyddais i wneud hynny ond roeddwn yn gwybod, os oeddwn i eisiau rhedeg yn y Gemau Olympaidd, y byddai’n rhaid imi fod yn ddigon da ar lefel Prydain. Llwyddais i gyrraedd y safon honno a rhedais dros Brydain … ond nid yw hynny’n fy ngwneud yn llai balch o fod yn Gymro neu i fod wedi cystadlu dros Gymru. Pan oeddwn i’n cystadlu dros Brydain, roeddwn i’n gwybod mai Cymro oeddwn i, ond mod i’n cystadlu dros Brydain.
Mae yna wledydd llai na Chymru yn cystadlu yn eu hawl eu hunain, ond, i mi, yn bersonol, roeddwn yn hapus o gystadlu dros Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Pe bawn i wedi cystadlu dros Gymru yn y Gemau Olympaidd, byddwn wedi bod yr un mor hapus. Ond, nid felly’r oedd hi. Ac nid felly mae hi. Ydw i’n mynd i ymgyrchu dros gael Cymru i gystadlu fel cenedl yn y Gemau Olympaidd? Nac ydw, dydw i ddim. Mae’n bosib fod rhai pobl yn teimlo fod hyn yn bwysig iawn iddyn nhw; ond ni fyddai’n bwysig i mi.

yr un wlad â lynn davies
Pe gallwn ddweud wrthych pam mae Cymru’n cyflawni cystal am wlad o’i maint, mae’n debyg y byddwn yn eistedd y tu ôl i ddesg go fawr yn rhywle yn ennill cyflog anferth! Mae gennym enw da ym myd chwaraeon, etifeddiaeth yn y maes, a chefndir sy’n rhoi camargraff o’r nifer o bobl sy’n byw yn y wlad mewn gwirionedd. Pan ydych chi’n meddwl am yr holl Olympiaid a Pharalympiaid a aned yng Nghymru, neu sy’n byw yng Nghymru ac sydd, felly, yn gymwys i gystadlu dros Gymru, mae’r rhestr yn drawiadol. Pan oeddwn i’n fachgen ysgol ar ddechrau’r ’70au, roeddwn yn eithriadol o falch mod i’n dod o’r un wlad â Lynn Davies. Roeddwn yn eithriadol o falch o fod yn Gymro pan oedd y tîm rygbi penigamp o Gymru yn perfformio ar lwyfan y byd ar ddiwedd y ’60au a’r ’70au. Po leiaf y wlad, y mwyaf o bwys a roddir ar lwyddiant ym myd chwaraeon.
Os ystyriwch chi’r Paralympiaid, yn arbennig: Tanni Grey-Thompson, 11 medal aur Baralympaidd; David Roberts, 11 medal aur Baralympaidd, ac mae Dai yn mynd i gystadlu yn 2012. Gallai guro’r record honno. Anhygoel. Mae’r tirwedd chwaraeon yn gyfoethocach yn sgil ymdrechion Tanni ac ymdrechion David hefyd. Mae’n anhygoel y medrwch chi gael dau berson o wlad gymharol fach a chael y math yma o lwyddiant ar lefel fyd-eang. Ac nid ydynt ar eu pen eu hunain, wrth gwrs. Cafwyd degau o Olympiaid a Pharalympiaid llwyddiannus o Gymru. Pam? Dydyn ni ddim yn gwybod ond boed i’r sefyllfa barhau.
Roedd fy nghyfaill, Colin Jackson, wedi troedio’r llwyfan rhyngwladol am ddegawd. Joe Calzaghe, pan oedd yn ddiguro am ddeng mlynedd, gan ddal pob fersiwn o’r teitl bocsio pwysau canol ac yna symud i fyny i’r adran nesaf. Pan fydd Shirley Bassey yn canu, pan fydd Bryn Terfel yn canu, mae pob un ohonom yn teimlo balchder mawr. Nid â chwaraeon yn unig y mae a wnelo hyn.

arwyr
Martin Luther King yw fy arwr mawr. Gwnaeth Nelson Mandela waith da hefyd, ac mae’r rhesymau dros hynny’n amlwg: yn wyneb caledi, dal i gredu yn rhywbeth a glynu wrtho. Ym myd chwaraeon, Daley Thompson, Gerald Davies. Daley Thompson oedd fy arwr ac yna, yn sydyn, roeddwn i’n ymwneud ag o. Mae’n dipyn o beth i’w amgyffred, Daley Thompson, o bosib yr athletwr mwyaf talentog i ddod o Brydain erioed. Dwi’n dweud ‘o bosib’ gan fod athletwyr eraill o fri wedi ymddangos dros y blynyddoedd, ond ei ymroddiad ef, y gred oedd ganddo ynddo’i hun a’r ffaith ei fod wedi troi pob carreg … a dal i gael hwyl. Roedd ganddo bersonoliaeth.
Gerald Davies, oherwydd mod i’n arfer mynd i wylio Caerdydd yn chwarae ac roedd o’n gwneud pethau a finnau’n meddwl, “Mae hynna’n anghredadwy”. Roedd yn gwneud y pethau yma dros ei glwb, dros ei wlad, dros Lewod Prydain ac Iwerddon. Ond, uwchlaw popeth, fe yw’r person mwyaf diymhongar, mwyaf hamddenol, mwyaf hael y bu imi gwrdd ag ef erioed, gŵr bonheddig i’r carn. Pan ddechreuais chwarae, daeth ataf un diwrnod a dweud, “Nigel, fy enw i ydi Gerald Davies” – fel pe bawn i ddim yn gwybod pwy oedd o, ond dyna arwydd o wyleidddra’r dyn – “Os oes unrhyw beth y galla i ei wneud i dy helpu di gyda’th yrfa, rho wybod imi”. Gadawodd hyn argraff ddofn arnaf. Dwi wedi’i gyfarfod sawl gwaith ers hynny, a wnaeth e erioed unrhyw beth i danseilio’r argraff gyntaf a gefais ohono.

o monte carlo i aberafan
Fe es i’r Gemau Olympaidd yn ’84, a syrthio, fel y dywedais, yn y ras gynderfynol, a chysuro fy hunan dros yr wythnosau i ddilyn drwy ddweud, “Dim ond 21 wyt ti. Fe fyddi di’n ôl y tro nesaf”. Roeddwn wedi fy anafu yn 1988, am ran helaeth o’r tymor, a wnes i ddim cyrraedd y tîm, felly Barcelona 1992 fyddai fy nghyfle olaf. Colin oedd y gorau drwy’r byd i gyd, doedd dim amheuaeth am hynny, ond roedd gennym athletwyr eraill o safon fyd-eang, Tony Jarrett, John Ridgeon. Pumed oeddwn i yn y treialon ar gyfer y Gemau Olympaidd. Daeth Ridgeon yn chweched ac mae hynny’n rhoi syniad i chi o’r safon. Fe wyddwn, bryd hynny, fod amser yn drech na fi. Roeddwn yn 29 oed. Nid oeddwn yn cyflymu, mae hynny’n sicr, ond cyflymu oedd hanes y rhai ifanc. A dyna pryd y penderfynais i, ond nid yn fyrbwyll, mod i’n mynd i roi cynnig ar rygbi. Digwyddais daro i mewn i Mark Ring, cyd-chwaraewr i mi ar lefel ysgolion Caerdydd flynyddoedd yn ôl, a dywedodd y geiriau cyfarwydd wrthyf, “Mae’n amlwg fod dy yrfa fel athletwr ar ben, Nigel!”. Dyna Mark ichi! A dyna benderfynu bryd hynny mod i’n mynd i roi cynnig ar Glwb Rygbi Caerdydd. Roedd hyfforddwr gan Gaerdydd, sef Alex Evans o Awstralia, a oedd newydd ddod draw, ac a oedd yn barod i roi cyfle imi, ac mae’r gweddill, erbyn hyn, yn hanes. Felly, roedd y cleddyf yn un deufin: siomedigaeth enfawr ar y naill law, a chyn pen tair neu bedair wythnos, roeddwn i’n chwarae i Gaerdydd, newid llwyr a oedd yn anhygoel.
Fel athletwr unigol, gallwn wneud fel ag y mynnwn, o ran lle’r oeddwn i’n ymarfer, pryd roeddwn i’n ymarfer ac am faint. Cyn gynted ag yr ydych chi’n chwarae mewn tîm, allwch chi ddim bod mor hunanol. Rhaid ichi ystyried eich cyd-chwaraewyr. Os gallaf roi un enghraifft ichi o’r gwahaniaeth. Ychydig fisoedd cyn imi chwarae i Gaerdydd am y tro cyntaf, roeddwn wedi bod yn ymarfer mewn tywydd cynnes yn Monte Carlo, ar gefn Colin a Linford Christie, prysuraf i ddweud. Roeddem mewn gwesty pum seren yn Monte Carlo am bythefnos, mewn heulwen braf, a phobl yn gweini arnom. Ychydig yn ddiweddarach, roeddwn i’n chwarae yn fy ngêm gyntaf i Gaerdydd yn erbyn Aberafan yng Nghae Athletau Talbot. Heb ddangos unrhyw amarch tuag at bobl Aberafan, credaf y byddai’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n cyfaddef fod Monte Carlo ychydig yn fwy hudolus, ac roedd hi’n hen ddiwrnod brwnt. Mae hyn yn crisialu’r gwahaniaeth a brofais wrth symud o yrfa mewn athletau i yrfa mewn rygbi.

tybed lle’r oedd gareth yn arfer eistedd
Gyrfa mewn athletau un diwrnod, cael fy newis i chwarae i dîm Caerdydd yn erbyn Aberafan ar 4 Medi 1992, a phump neu chwe mis yn ddiweddarach, cael fy newis i chwarae i Gymru. Allwn i ddim credu’r peth! Dwi’n cofio’r sgwrs a gefais gydag Alan Davies. Ffoniodd fy nghartref. Dywedodd fy ngwraig, “Alan Davies sy ’na”. Codais y ffôn a dywedodd Alan, “Nigel, rydyn ni newydd ddewis y tîm i chwarae yn erbyn Iwerddon wythnos i ddydd Sadwrn, ac rydym wedi dy ddewis di i chwarae ar yr asgell chwith”. Mae’n debyg ein bod wedi sgwrsio am bum munud arall ond alla i ddim cofio gweddill y sgwrs. Roeddwn i’n mynd i chwarae i Gymru! Ac, i rywun oedd yn talu i wylio Gerald Davies a Gareth Edwards a Phil Bennett a’r chwaraewyr eraill i gyd, dyna lle’r oeddwn i, yn mynd i chwarae dros fy ngwlad, ac allwn i ddim credu’r peth.
O’r paratoadau cyntaf, rydych chi’n dechrau teimlo’r effaith a gaiff rygbi ar fywydau pobl yng Nghymru, pobl yn siarad â chi cyn y gêm ac yn dweud wrthych chi beth maen nhw’n ei ddisgwyl ohonoch. A, phan ydych chi’n deffro ar fore’r gêm ryngwladol, rydych chi eisiau bod mewn unrhyw le heblaw am yr ystafell yng ngwesty’r tîm. Rydych chi’n teimlo’r pwysau. Cael eich tywys gan yr heddlu i’r maes, torfeydd yn eich cyfarfod wrth i’r bws gyrraedd, cerdded i’r ystafelloedd newid, gweld rhif 11 yn hongian ar y peg a meddwl, “Tybed lle’r oedd Gareth Edwards yn arfer eistedd, tybed lle’r oedd Gerald Davies yn arfer eistedd.” Y Gwyddelod yn rhedeg allan a chithau’n meddwl, “Mae’n swnllyd”, a chithau’n rhedeg allan, ac mae’n fyddarol. Rhu’r dorf ar ôl y gic gyntaf, y siom a deimlai bawb ar ôl ichi golli. Rydych yn cofio’r cyfan.
Rydych chi’n mynd allan ac yn chwarae ac mae’r gêm drosodd mewn fflach [clicio bysedd]. Gallwn eich siarad chi drwyddi, funud wrth funud, gan fod y cyfan wedi’i argraffu ar fy nghof. Roeddwn yn byw’r freuddwyd unwaith eto, ar ôl gweithio mor galed am rywbeth a hwnnw’n dwyn ffrwyth. Byddai fy merched yn diflasu wrth wrando arnaf: “Mae’n rhaid ichi weithio’n galed ferched, i leihau’r peryg na fydd pethau’n gweithio allan i chi. Does dim sicrwydd o unrhyw fath yn y byd hwn ond mae un peth yn sicr, os ydych chi’n gweithio’n galed, mae gennych well siawns o gyflawni’r hyn rydych chi ei eisiau”.
Maen nhw’n dweud wrthyf mai’r gêm orau i mi ei chwarae dros Gymru oedd yr un yn erbyn Seland Newydd ar faes Wembley. Roeddwn i’n marcio Jeff Wilson, a oedd yn beldroediwr hynod o ddawnus. Roedd cyfaill o’r enw Jonah Lomu ar yr asgell arall, ond roedd Jeff Wilson – a bydd pobl yn fy meirniadu am ddweud hyn – yn well chwaraewr at ei gilydd. Roedd hi’n hynod o anodd stopio Jonah ac roedd e yn ffenomenon, does neb yn gwadu hynny, ond roedd Jeff Wilson yn beldroediwr. Roedd yn peri nifer o broblemau, a llwyddais i wneud yn weddol dda yn ei erbyn. Yn Wembley, roedd yna awyrgylch unigryw yn erbyn y tîm gorau yn y byd, a gwyddem y byddai’n galed arnom. Credaf ein bod yn colli 22-0 ar ôl 18 munud ac, yn y pen draw, fe wnaethom ni golli 42-7. Mae’n bosib fy mod yn parhau i ddal y record am sgorio’r nifer fwyaf o geisiadau i Gymru mewn gêm Ryngwladol, os yw’r record yn dal i fod yn bedwar. Wn i ddim a oes unrhyw un wedi rhagori ar hynny. Mae yna nifer wedi sgorio pedwar fodd bynnag. Ond yn erbyn Portiwgal y sgoriais fy mhedwar cais i, os cofiaf yn iawn, ac mae rhai o’r lleill wedi sgorio pedwar yn erbyn gwell gwrthwynebwyr!

buddsoddi mewn llwyddiant
Does dim sicrwydd y gwnewch chi lwyddo. Allwch chi ddim rhoi digon o bwys ar fuddsoddiad yn fy meddwl i: punnoedd, sylltau a cheiniogau. Mae’r cyfleusterau, yma yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol, yn llawer gwell nawr nag oedden nhw 10, 15, 20 mlynedd yn ôl, ac os ydym am barhau i gyflawni uwchlaw’r disgwyl ar lefel chwaraeon elit, mae angen inni barhau â’r nawdd hwnnw, a phe bai’r nawdd hwnnw’n gostwng yn ddramatig – fel a ddigwyddodd yn Awstralia ar ôl gemau Sydney – bydd perfformiadau’n adlewyrchu hynny, nid yn y ddwy neu dair blynedd sy’n dilyn yn syth ar ôl hynny efallai, ond yn sicr saith neu wyth mlynedd yn ddiweddarach. Felly, os ydym am barhau i gael llwyddiant, mae’n rhaid ichi barhau i fuddsoddi ynddo.
Mae’n dibynnu faint o werth y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth yn ei roi ar lwyddiant mewn chwaraeon. Byddai rhai’n dweud fod ysbytai’n bwysicach, fod addysg yn bwysicach. Mae’r holl bethau hyn yn bwysig, ond nid lle’r llywodraeth yw penderfynu faint o flaenoriaeth y dylid ei rhoi i chwaraeon. Ond, pan maen nhw’n gwneud penderfyniad ynghylch noddi chwaraeon, dylent wneud hynny gan wybod, os ydyn nhw’n cwtogi ar y buddsoddiad, y bydd ein canlyniadau ni yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd at y dyfodol, a’r effaith a gawn yn y Gymanwlad, ac o amgylch y byd, yn llawer llai.

rhoi rhywbeth yn ôl
Pan oeddwn i’n siarad mewn cyfweliadau yn fy ugeiniau cynnar, roeddwn i’n arfer dweud yr hoffwn i roi rhywbeth yn ôl i chwaraeon. Doeddwn i ddim wir yn deall beth oedd hynny’n ei feddwl. Os yw fy mhrofiadau o unrhyw werth i unrhyw unigolyn sy’n mynd yn ei flaen, dwi ond yn rhy falch o gael helpu. Ond pan fydda i’n edrych ar hyfforddwyr sy’n rhoi o’u hamser yn gwbl anhunanol, yn aberthu pethau er mwyn i’w hathletwyr gael gwell cyfle o lwyddo, dyna beth yw gwir ystyr rhoi rhywbeth yn ôl. Cefais flas o hynny yn y cyfnod rhwng 1999 a 2001. Roedd gan Linford Christie nifer o athletwyr a oedd yn ymarfer yng Nghaerdydd – Darren Campbell, Jamie Baulch a Katharine Merry, a Paul Grey, hefyd – ac fe wnes i eu helpu dim ond am fy mod i’n lleol yng Nghaerdydd. Roedd Linford yn byw yn Llundain ac roeddwn i’n treulio pedwar neu bum diwrnod yr wythnos gyda nhw ac fe es i Gemau Olympaidd Sydney yn 2000. Cafodd Katharine fedal efydd yn y 400m, cafodd Darren fedal arian yn y 200m, ac os oeddwn i’n rhoi rhywbeth yn ôl, roedd y boddhad yn llawer mwy na’r aberth. Roedd yn deimlad anhygoel gweld pobl yn ennill medalau ar lwyfan y byd.
Nid oes yr un yrfa yn mynd o A i B, yn para deg neu ddeuddeng mlynedd, heb gyfnodau o argyfwng. Bydd y rhan fwyaf o’r rhai sydd wedi mynd o’ch blaen wedi cael profiadau tebyg, ac os gallwch chi roi gair o gyngor i rywun: “Cama’n ôl. Meddylia am y peth. Fe wnes i drïo hyn. Fe weithiodd i mi.” Cael rhywun i siarad â chi, rhywun i refru a chynddeiriogi gyda nhw, a chlust i wrando. Yn ystod yr ychydig o hyfforddi dwi wedi’i wneud, dwi bob amser wedi ceisio bod yn seinfwrdd er mwyn i bobl allu taflu’u syniadau ataf, gan ganiatáu iddyn nhw ganfod yr ateb, eu hunain.

talent ac ymroddiad
Dywedodd rhywun am y 7 ‘P’ wrthyf rywdro: “Prior planning and preparation prevent pretty poor performance”, ac fe wnes i hynny i’r llythyren! Mae’n golygu paratoi i’r eithaf, a throi pob carreg. Bûm yn ffodus iawn yn ystod fy mywyd i fod wedi ymwneud â phobl sy’ wedi bod yn gwbl ymroddedig ac yn hynod dalentog. Dyma i chi ddau ohonyn nhw: Daley Thompson a Colin Jackson. Roedden nhw’n byw y peth, cysgu’r peth, yn ei fwyta ac yn ei yfed. Roedd Daley’n gwbl anhygoel. Byddai rhai’n dweud ei fod yn drahaus, ond fe gredai mai ef oedd y gorau yn y byd. Os oedd yn ymarfer fel pencampwr, roedd hi’n amhosib i bobl ei guro. A wnes i erioed anghofio hynny.
Felly pam nad enillodd Colin Jackson fedal aur yn y Gemau Olympaidd? Oherwydd bod angen ychydig bach o lwc arnoch hefyd. Aeth Colin yn 1988 pan oedd yn 21 mlwydd oed ac enillodd y fedal arian y tu ôl i Roger Kingdom. Roedd Roger fwy neu lai’n ddiguro bryd hynny. Bedair blynedd yn ddiweddarach, roedd ffenestr yna i Colin. Credaf ei fod wedi rhedeg tua 30 ras neu wedi rasio am ychydig dros flwyddyn, heb i neb ei guro, ond cafodd anaf bach yn y rownd ragbrofol, ac ni allai berfformio ar ei orau. Cafodd ei guro gan Mark McCoy, ei bartner ymarfer, mewn 13.12, amser y gallai Colin fod wedi’i gyflawni yn ei gwsg. Wn i ddim sawl gwaith yr oedd Colin wedi rhedeg yn gyflymach na hynny yn ystod y deuddeng mis blaenorol. Erbyn 1996, er i Colin gyrraedd y ras derfynol, ni chafodd lwyddiant. Dyna fel mae hi. Mae angen elfen o lwc arnoch, neu mae angen i chi osgoi anlwc ac fe gafodd Colin ychydig o anlwc pan gafodd yr anaf bach hwnnw. Ond heb unrhyw amheuaeth, am bedair neu bum mlynedd, neu fwy efallai – a dwi’n siwr y bydd yn fy nghywiro os bydd yn darllen hwn – ef oedd y sbrintiwr cyflymaf dros y clwydi yn y byd … o bell ffordd hefyd.
Tri gair i ddisgrifio fy hun: ymroddedig, ffyddlon, gonest.

Owner:
Dilyn y Fflam ~ Following the Flame
Crëwr:
Phil Cope & Andrew Griffiths
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
10/12/10
Eitem wedi’i llwytho:
8/7/2014
Gwelediadau:
6182
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment