Skip to main content

Cyfweliad gyda'r rhedwr ras gyfnewid Jaimie Baulch

Disgrifiadau

JAMIE BAULCH
hanes rhedwr ras gyfnewid

F’enw i yw Jamie Baulch. Cefais fy ngeni ar 3 Mai 1973 ac rwy’n byw yng Nghaerdydd. Roeddwn yn arfer gwneud cystadlaethau trac a maes ac yn arfer rhedeg dros Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y 400 metr ac, wrth gwrs, y ras gyfnewid 4x4. Rwy wedi ymddeol erbyn hyn ond, pan oeddwn yn cystadlu, bûm yn rhedeg am ryw ddeuddeg mlynedd ymysg goreuon y byd, ac mae gen i sawl medal yn y cwpwrdd i f’atgoffa fy hun.

wyau a llwyau

Roeddwn tua 10 neu 11 oed pan ddechreues wneud athletau. Dechreuais wneud cystadlaethau trac a maes yn niwrnod chwaraeon yr ysgol. Y brif gystadleuaeth yr oeddwn ynddi oedd y ras rwystrau. Byddai rhaid ichi redeg deg metr gyda wy a llwy, yna rhedeg dros fainc bren, wedyn neidio mewn i sach a mynd ddeg metr yn y sach, mynd o dan mat diogelwch a rhedeg i’r pen. Digwyddais ddod allan o dan ochr y mat a gweiddodd fy nhad, “Jamie, cer nôl i’r dechrau”, felly roedd rhaid imi redeg yr holl ffordd yn ôl i’r dechrau, gafael yn yr wy a’r llwy, mynd dros y fainc, neidio i’r sach, o dan y mat, a gwibio i’r pen gan ennill y ras! Roeddwn wedi mynd ddwywaith yn gyflymach nag unrhyw blentyn arall drwy’r ysgol ac roedd pobl yn dweud, “Mae e’n gyflym!”. Roedd fy mhrifathro’n rhedeg a dywedodd, “Rwy’n meddwl y dylet ymuno â chlwb rhedeg”. Gyda Newport Harriers y dechreues i. Roeddwn yn hyfforddi ddwywaith yr wythnos ac ar ôl mis, enillais Bencampwriaethau Sir Gwent dros 100 metr. Yna, rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ymunais â Chlwb Athletau Caerdydd, clwb mwy oedd yn cystadlu yn erbyn timau mwy. Arferwn wneud 100 a 200 metr i ddechrau, yna newidiais i’r 4x400 metr a rhywfaint ar y 400 metr unigol, yn ddiweddarach yn fy ngyrfa.

y coesau cyflymaf yn y sir

Y ras gyfnewid 4x4, drwy ddamwain y digwyddodd hynny, a dweud y gwir. Roeddwn yn cystadlu yng Nghaerdydd, a rhedais un o’r cymalau cyflymaf yn y wlad y flwyddyn honno ac roedd pawb yn dweud, “Www, mae e’n wirioneddol dda dros 400 metr”. Rhedais y ras gyfnewid (gwibio) gyflymaf ym Mhrydain y flwyddyn honno, oedd yn nyddiau Roger Black, Iwan Thomas, Mark Richardson, athletwyr gwirioneddol dda. Roedd rhyw chwech neu saith ohonom, i gyd ymysg goreuon y byd.

Mae’n gamp gignoeth iawn. Does dim angen pwll nofio arnoch, does dim angen beic, does dim angen offer. Dim ond chi a’r trac, a dyna rwy’n ei garu amdani. Does dim yn cymharu â rhedeg yn gyflymach na phawb arall, nag oes? Does dim yn cymharu â maeddu’r boi nesaf atoch, nag oes? Rwy wedi gwneud hynny ar lefel y byd. Pan enillais Bencampwriaethau’r Byd yn 1999, es i Asda gwpl o wythnosau’n ddiweddarach. Roeddwn yn gwthio fy nhroli ac rwy’n cofio meddwl, “Rwy’n gyflymach na’r boi yna, a’r person yna, a’r plentyn bach draw fanna”, ac yna, yn sydyn, sylweddolais mai fi oedd y dyn cyflymaf ar y blaned. Mae’n braf gwybod mai chi yw’r person cyflymaf dros 400 metr.

Maen nhw’n dweud mai rhedeg 400 metr yw’r gystadleuaeth anoddaf mewn trac a maes oherwydd mai gwibio dan reolaeth ydych chi. Rydych yn rhedeg fwy neu lai nerth eich traed o gwmpas y trac am 400 metr. Mae’n rhedeg dwys iawn. Os dychmygwch chi gar Ferrari, wel, roedden ni fel Ferraris.

dim byd yn debyg i guro’r americanwyr

Mae rhedeg ras gyfnewid a rhedeg fel unigolyn yn ddau beth hollol wahanol, oherwydd, yn y ras gyfnewid, yn gyntaf, rydych yn rhedeg yn bennaf dros Brydain Fawr; yn ail, rydych yn rhedeg gyda chydgystadleuwyr sydd hefyd yn ffrindiau ichi pan fyddwch yn cystadlu fel tîm neu oddi ar y trac, ond eu bod yn elynion ar y trac. Felly, yn sydyn, pan ddewch at eich gilydd fel pedwarawd, rhaid ichi i gyd asio a dod ymlaen â’ch gilydd. Dydych chi ddim eisiau siomi neb. Y ras gyfnewid oedd fy ffefryn i oherwydd roedden ni wastad yn erbyn America a Jamaica, y timau cyflymaf, a doedd dim byd yn debyg i guro’r Americanwyr. Os gwelwch chi dâp fideo ohonof pan ddaethom yn ail ym Mhencampwriaethau’r Byd, fe redais i heibio i’r athletwr o America. Roedd hynny mor cŵl. Yn ffeinal y Gemau Olympaidd yn ’96, America oedd y tîm cyflymaf ac fe gyrhaeddon ni’r ffeinal, moment ddigon brawychus mewn hanes, oherwydd dim ond 44 eiliad sydd gennych i wneud popeth yn iawn. Os gwnewch chi lanast yn yr amser hwnnw, ar y diwrnod, y funud honno, mae wedi mynd; chewch chi mo’i wneud eto. Rhedodd Iwan Thomas y cymal cyntaf, rydym yn y bumed lôn gyda’r Americanwyr yn y bedwaredd lôn. Wel, wrth imi redeg rownd y tro, a chael y baton gan Iwan, mae’r Americanwr yn rhedeg heibio imi gan ddweud, “Oh yeah, baby!” Mae’n siarad wrth redeg! Felly, mae gen i 300 metr i fynd. Rwy’n mynd ar hyd y darn syth cefn ac yn meddwl, rwy’n mynd i’w gael e nawr. Dyma fi, yn ffeinal y Gemau Olympaidd - mae ychydig bach o mlaen i ac rwy’n rhedeg mor gyflym ag y medraf ac, wrth ei basio, dywedais, “Neep! Neep!” fel Road Runner, y cartŵn!

Dim ond 44 eiliad oedd gen i, ond, mewn gwirionedd, pan fyddwch yn rhedeg yn eithriadol o gyflym, mae’r 44 eiliad yna’n edrych fel awr. Mae gennych faint a fynnwch o amser i fanteisio ar eich cyfle, ac i gymryd y cyfan i mewn. Mae popeth yn arafu pan fyddwch yn mynd yn gyflym.

ar hyd a lled y byd

Rwy wedi bod i ddau Gemau Olympaidd, rwy wedi bod i gwpl o Bencampwriaethau Byd, cwpl o Bencampwriaethau Ewropeaidd, Gemau’r Gymanwlad a Chwpanau Byd. Rwy hefyd wedi chwarae cwpl o gemau pêl-droed, gemau coffa, ac rwy wedi cystadlu yn erbyn rhai o beldroedwyr gorau’r byd. Roeddwn yn chwarae ar y blaen gyda Zola y mis o’r blaen ac roeddwn yn meddwl, “Beth ydw i’n ei wneud yma? Mae’r dyn yma’n chwedl”. Rwy’n cofio mynd i Barti yn y Parc yn Llundain gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog. Es ar y llwyfan fymryn o flaen Christina Aguilera ac ar ôl Bon Jovi, sêr o’r radd flaenaf, a chyda 120,000 o bobl o’m blaen troellais yn f’unfan yn debyg i Michael Jackson, a gwneud dawns fach ar y llwyfan, ac aeth y dyrfa’n wyllt. Pe gallwn i fod yn unrhyw beth mewn bywyd, yn rhedwr, pêl-droediwr, chwaraewr tennis, seren bop, beth bynnag, byddwn yn hoffi gallu canu. Byddwn wrth fy modd pe bawn yn ganwr o safon fyd-eang, a mynd ar lwyfan fel Robbie Williams sydd wedi canu o flaen 350,000 o bobl yn Knebworth a chael pobl yn canu’r gân yn ôl iddo.

Rwy wedi bod ar hyd a lled y byd oherwydd athletau ac roedd 90% o’r gwledydd yr es i iddynt yn anhygoel. Ddywedais i ddim 100%, oherwydd roedd rhai’n ofnadwy, ond o’r 90%, Awstralia oedd fy ffefryn. Bûm yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Sydney yn 2000. Ces Gemau gwael, redais i ddim yn dda iawn, a dod yn bumed. Ond mae’n genedl sydd mor hoff o chwaraeon, yr awyr agored, yr estyll beiston, mae’n cŵl, mae fel y gorau o Brydain, mewn ffordd. Wn i ddim pam roedden nhw’n anfon troseddwyr yno. Rwy’n credu iddyn nhw wneud camgymeriad braidd efo hynny. Wn i ddim pan nad yw pawb ohonon ni yno.

Y 10% oedd Rwsia. Roedd Moscow’n ddychrynllyd. Roeddwn yn ei chasáu. Yr adeg roedd y McDonalds cyntaf wedi agor yno oedd hynny, ac roedd rhywbeth yn rhyfedd yn hynny oherwydd – nid mod i’n bwyta llawer o McDonalds gyda llaw, gadewch imi ddweud hynny – ond byddai wedi costio cyflog pythefnos i rywun gael McDonalds yno. Roeddech chi un ai’n gyfoethog iawn neu’n dlawd iawn ar y pryd, a doeddwn i ddim yn hoffi’r lle. Roedd y gwesty braidd yn beryglus; ar y pumed llawer roedd pobl â gynnau peiriant. Ar y pryd doeddwn i ddim yn hoff iawn o Dde Affrica, chwaith. Roedd Johannesburg yn codi ofn arnoch; rwy’n sôn am 10, 12 mlynedd yn ôl. Roedd hynny’n agoriad llygad, y cyfoethog a’r tlawd, a dipyn bach yn llygredig. Lle hyfryd i edrych arno ond ... . Rwy wedi bod yno ers hynny ac mae’n grêt, erbyn hyn.

Rwy wedi bod i lawer o wledydd - America, Sbaen, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen – pa wlad bynnag, rwy wedi bod yno, wedi cystadlu yn y rhan fwyaf o wledydd. Bûm yn byw yn Sydney yn Awstralia am gwpl o flynyddoedd, bob hyn a hyn, yn hyfforddi; a bûm yn byw yn America, yn Atlanta yn Georgia. Arferai llawer o’m ffrindiau ddweud wrthyf, “Rwyt ti mor lwcus”. Ond roedd yr hyfforddi’n anodd iawn; byddwn yn sâl yn gorfforol bob yn ail ddiwrnod ar y trac rhedeg … felly nid yw’n gymaint o hwyl ag y mae’n ymddangos o’r tu allan.

Pan fyddwch yn gwylio ar y teledu, dim ond y tameidiau olaf rydych yn eu gweld, eiliadau hudolus y gamp; yr hyn nad ydych yn ei sylweddoli yw’r holl galedi sy’n rhan o hynny. Mae gen i ddau blentyn. Mae’r hynaf yn bymtheg, a’r un bach yn saith. Gyda’r un pymtheg oed, roeddwn yn arfer bod ar wahân am chwe mis o’r flwyddyn. Y cyfan roeddwn am ei wneud oedd siarad ag ef, chwerthin, chwarae pêl-droed gydag ef, a fedrwn i ddim am fy mod i’n hyfforddi. Er bod y canlyniad yn y pen draw yn wych, yng nghanol hyn i gyd mae rhai profiadau anodd iawn.

y fedal a’r foment

Roeddwn yn 22/23 oed pan es i’r Gemau Olympaidd, yn reit ifanc, a dweud y gwir. Yn fy Ngemau Olympaidd cyntaf, enillais y fedal arian honno, profiad gwych, mor hudolus fel na fedraf ei ddisgrifio’n iawn. Bu’r fedal yn fy nrôr sanau am gyfnod hir. Cafodd ei tharo yno, a byddai pobl yn gofyn, “Pam mae hi yn y drôr? Pam nad wyt ti’n ei harddangos?” Wel, fel athletwr, nid y fedal yw’r hyn rydych yn ei grefu, ond y foment ei hun. Dim ond yn ddiweddar, pan oeddwn yn gwylio Gemau Olympaidd Beijing ac yn gweld y bobl hyn yn cael medalau, pawb wedi cyffroi ac yn crïo, y meddyliais, “Nefoedd, mae gen i un o’r rhain!” Dim ond ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach y sylweddolais profiad mor dda ydoedd. Roedd gan bawb o’m cwmpas fedal Olympaidd, felly roedd i’w weld yn beth hollol normal. Y Linford Christies, y Colin Jacksons, mae gennym i gyd fedalau yn ein cypyrddau, felly doeddwn i ddim yn sylweddoli mor arbennig oedd hynny.

Rwy wedi ennill tua 14 neu 15 medal, o Gemau’r Gymanwlad hyd at y Gemau Olympaidd. Dywedodd rhywun wrthyf yn ddiweddar mai fi yw un o fedalwyr mwyaf llwyddiannus y wlad. Bûm yn cystadlu dan do, gan ennill pum medal Byd dan do, medal Olympaidd, medalau Byd awyr agored, medalau Ewropeaidd a Chymanwlad; a hynny yn y ras gyfnewid a’r cystadlaethau unigol. Y foment orau oedd ennill Pencampwriaethau Dan Do’r Byd, a’r foment fwyaf hudolus oedd pan enillais Bencampwriaethau’r Byd. Roeddwn yn Japan a ffoniais fy mam a nhad: “Dad, Dad, fi yw Pencampwr y Byd”, a dechreuodd grïo. Roedd mor falch o’i fab, ni allai ffrwyno hynny. Dywedodd, “Mae hynna’n ardderchog. Da iawn ti. Ry’n ni mor falch ohonot!” Felly dyna, i mi, oedd fy medal aur – gwneud fy rheini mor falch o’u mab nes gwneud i nhad grïo. Dydy tadau ddim yn crïo, yn nad ydynt?

rhedeg mewn ofn

Y gystadleuaeth anoddaf – ond y gorau efallai yr un pryd – oedd y Bencampwriaeth Byd dan do a enillais yn ’99, oherwydd roedd pawb yn dweud “Mae’n mynd i ennill”, ac mae hynny’n anodd, wyddoch chi. Allwch chi ddychmygu pawb yn dweud, “O, rwyt ti’n mynd i ennill!”. “Ydw i? Sut ydych chi’n gwybod hynny?”. “Am mai ti yw’r gorau.”. “Ie, ond rhaid ifi fod y gorau y foment honno. Gallwn lithro. Gallwn gwympo. Gallwn fod â phen tost. Gallwn gael anwyd”. Roedd llawer o bwysau, anodd iawn. Pan edrychwch chi ar bobl fel y Fonesig Kelly Holmes a’r pwysau arni i ennill yn y Gemau Olympaidd, a phobl fel Paula Radcliffe, mae rhai pobl yn plygu dan bwysau ac eraill yn perfformio’n well. Roedd Linford Christie’n un a berfformiai’n dda dan bwysau. Gofynnais iddo un diwrnod, gan ddweud, “Sut wyt ti’n gwneud hynny?”. Dywedodd, “Rwy’n rhedeg mewn ofn”. Byddai’r ofn o golli yn gwneud iddo ennill.

disgwyl am aur

Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, cefais wybod ein bod wedi cael ein dyrchafu i’r fedal aur yn y 4x4 ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Athen. Cyfaddefodd un o’r Americanwyr a enillodd y diwrnod hwnnw iddo gymryd cyffuriau sy’n hybu perfformiad. Dim ond cwpl o flynyddoedd yn ôl y daeth hynny i’r amlwg. Wel, wedyn wrth gwrs, roedd tîm Prydain Fawr yn mynd i gael ei ddyrchafu i’r fedal aur, tîm Jamaica i’r arian, ac yn y blaen. Mae’n dipyn o drueni mai fel hyn y daeth hi, serch hynny. Dair blynedd ar ddeg yn ôl, pe baem wedi cael y fedal aur bryd hynny, byddai wedi bod mor wahanol, oherwydd ni yw’r tîm cyflymaf erioed yn y wlad hon o hyd, a’r tîm cyflymaf erioed yn y Gymanwlad ac Ewrop o hyd. Ond, ar yr un pryd, rwy’n troi hynny ar ei ben ac yn meddwl mod i’n wirioneddol lwcus fod y gwir wedi dod i’r amlwg. Rhaid imi fod yn ddiolchgar fod f’enw yn y llyfrau hanes fel pencampwr byd dwbl, dan do ac, erbyn hyn, yn yr awyr agored, hefyd.

Ni roddodd yr Americanwyr y medalau yn ôl. Rwy wedi cael medal nad yw’n un wreiddiol; nid yw hyd yn oed yn edrych fel y gwreiddiol, sy’n fwy siomedig fyth. Byddai wedi bod yn braf cael replica aur o leiaf o’r fedal wreiddiol. Ond, mewn chwaraeon, mae pethau’n digwydd; mae yna bobl sy’n mynd i dwyllo. Mae arian mawr yn y fantol. I mi, yn bersonol, rwy’n meddwl fod rhaid ichi fod â balchder pan fyddwch yn rhedeg. Roeddwn i’n rhedeg am fy mod i’n dwlu ar redeg. Doeddwn i ddim yn rhedeg am fy mod i am ennill llawer o arian, neu beth bynnag. Roeddwn i’n rhedeg am fy mod i am gyrraedd y brig yn yr hyn yr oeddwn yn ei wneud, a hynny’n onest ac yn naturiol, wyddoch chi. Mae gen i blant. Rwy’n caru fy rhieni a’m teulu, felly, i mi, yn bersonol, dydw i ddim yn deall y peth.

ddim yn chwe troedfedd o daldra

Roeddwn i’n anarferol iawn. Rhaid mai fi oedd un o’r rhedwyr 400 metr byrraf, os nad y byrraf, yn y maes. Rwy’n bum troedfedd wyth modfedd. Fel arfer mae rhedwyr 400 metr yn chwe troedfedd neu fwy a’r rheswm am hynny yw mai gwibio dan reolaeth yw ras y 400. Mae’n gystadleuaeth sy’n eich ymestyn. Dydych chi ddim yn rhedeg nerth eich troed o’r gwn oherwydd fedrwch chi ddim gwneud hynny … ond dyna sy’n fy ngwneud i’n unigryw. Yn Jamaica, roedden nhw’n fy ngalw i’n ‘Suicide’. Byddent yn dweud, “Peidiwch â’i ddilyn e. Fe laddith e chi, oherwydd os rhedwch chi mor gyflym ag e dros y 200 cyntaf fe wnewch chi farw wrth redeg y darn syth olaf”. Roeddwn i’n arfer rhedeg nerth fy nhraed yr holl ffordd rownd. Dyna pam roeddwn mor dda yn y ras gyfnewid. Gallem fod yn drydydd neu hyd yn oed yn bedwerydd, a byddwn yn adennill llathenni. Er enghraifft, ym Mhencampwriaethau’r Byd yn 1997, pan gefais y baton, roeddem yn y trydydd safle, 25 metr y tu ôl i’r Americanwyr a phedwar metr y tu ôl i’r Jamaicaid, ond, a 200 metr i fynd, roeddem bedwar metr ar y blaen. Roeddwn wedi ennill 30 metr. Iawn, throsglwyddais i mo’r baton yn y safle cyntaf – aeth yr Americanwr heibio imi – ond roeddwn wedi cau bwlch o 25 metr i’n gwneud ni’n gystadleuol. Roeddwn yn gallu cyflymu’n sydyn iawn. Gallwn fynd o ddim i beth bynnag mewn chwinciad.

fest cymru

Rwy’n credu fod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod imi gael fy ngeni yn Lloegr, ond fe symudon ni i Gymru pan oeddwn yn dri mis oed, felly Cymro ydw i. Dydw i ddim yn ystyried fy hyn yn Sais. Fydda i byth yn Sais. Pan fyddwch yn gwisgo fest Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, mae’n golygu cymaint mwy na gwisgo fest Prydain. Wrth wisgo’r fest honno, rydych chi’n teimlo, “Rwy’n barod amdani!”. Yn amlwg, pan oeddwn yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau’r Byd ar ran Prydain Fawr, roedd hynny’n wych gan eu bod nhw’n fwy eto, wyddoch chi. Hynny yw, allwch chi ddim cystadlu dros Gymru yn y Gemau Olympaidd, nac ym Mhencampwriaethau’r Byd. Ond pan ddewch chi adref o Gemau’r Gymanwlad ar ôl cael medal, byddai pobl yn dweud, “Da iawn ti, boi, cer amdani”. Roedd dipyn bach yn fwy cignoeth. Roeddwn yn dwlu ar hynny!

steils gwallt

Roeddwn yn arfer gwisgo’r steils gwallt rhyfeddaf; fy mhersonoliaeth yn dod i’r amlwg. Roedden nhw’n arfer fy ngalw’n ‘Flying Pineapple’ yn Awstralia, oherwydd roedd gen i wallt byr ar yr ochrau, dreadlocks, plethenni, ar y top, a’r rheini’n cael eu clymu i fyny fel pinafal. Y tro cyntaf, ddywedais i ddim wrth fy mam mod i’n mynd i gael fy ngwallt wedi’i wneud a, wyddoch chi, roeddwn yn meddwl y byddwn mewn trwbl yn mynd adref gyda steil gwallt mor wallgof. Cerddais i mewn i’r ystafell fyw gan feddwl y byddai fy mam yn fy lladd, ac fe ddywedodd, “Www, rwy’n hoffi hynna’n fawr!”. Felly y bu hi, roedd hi wedi agor y drws ac fe wnes i bopeth. Bu gen i wallt glas, gwallt pinc, gwallt coch, gwallt porffor, dreadlocks golau, gwallt hir. Oes rhai o’r steils yn gwneud imi deimlo’n annifyr? Oes, a bod yn onest, wrth edrych yn ôl drwy rai o’r lluniau. “O, nefoedd! Ai fi oedd hwnna?”. Ond yr un peth a wnaeth hynny – nid mod i wedi mynd ati’n fwriadol – oedd tynnu sylw at f’enw a’m hwyneb, a mynd â mi i fannau nad oedd athletwyr eraill yn mynd iddynt. Bu gen i fy rhaglen deledu fy hun ac roeddwn yn cael nawdd gan labeli ddillad dylunwyr ac ati, felly roeddwn yn reit lwcus. Mae’n fyr a di-nod erbyn hyn ond, er mod i’n 37 oed, dydw i ddim wedi britho eto.

Mae gennym un neu ddau o bobl garismataidd yn y maes, ond mae’r byd trac a maes wedi mynd yn ddiflas iawn erbyn hyn. Rwy’n meddwl fod Usain Bolt yn un cymeriad y mae ei wir angen arnom. Mae’r dyn yn anhygoel, yn chwedl yn barod. Mae’n f’atgoffa o rai o’r pethau yr arferwn i eu gwneud. Mae chwaraeon wedi mynd ychydig yn fwy difrifol, ychydig yn fwy trefnus, ac, yn anffodus, nid oes gan yr athletwyr ifanc sy’n cystadlu nawr yr un modelau rôl ag oedd gen i, pobl fel Colin Jackson, Linford Christie, Daley Thompson. Mae’r cymeriadau wedi mynd.

ymddeol

Deffrais un diwrnod a dywedais, “Dwi ddim yn mwynhau hyn, mwyach! Ydw i wir eisiau byw yn America a pheidio â gweld fy mhlant yn tyfu?”, a ffoniais fy hyfforddwr. Ddiwrnod yn ddiweddarach hedfanais adref a wnes i ddim rhedeg eto. Roedd mor syml â hynny. Mae chwaraeon yn rhywbeth mae rhaid ichi ei fwynhau; allwch chi ddim gwneud chwaraeon ar y lefel yna oni bai eich bod yn mwynhau. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn mod i’n gallu gwahaniaethu rhyngof fi fel person a fi fel athletwr. Mae pobl fel Paul Gascoigne yn ei chael yn anodd pan fyddant yn ymddeol oherwydd byddent yn dal i ddymuno bod y sawl oedden nhw ugain mlynedd yn gynt, tra oeddwn i’n gofyn, “Ydw i wir eisiau rhedeg mwyach? Nac ydw. Mae’n brifo. Roedd yn waith caled”. Er imi ymddeol bum mlynedd yn ôl, mae pobl yn dal i ddod ataf a dweud, “O, chi yw’r rhedwr”, a byddaf yn dweud, “Rhywbeth rwy’n ei wneud yw rhedeg, nid beth ydw i”. Peidiwch â chamddeall, roeddwn yn dwlu ar fy ngwaith. Roedd yn anhygoel ennill medalau a rhedeg dros eich gwlad, rhedeg yng Ngemau’r Gymanwlad a gwisgo fest Cymru amdanaf, ond gwaith oedd hynny yn y pen draw ac, yn amlwg, mae’n waith nad wyf yn ei wneud bellach. Rwy’n mwynhau gwneud pethau eraill, nawr.

Y peth amdanaf fi yw, fedrwch chi mo’n rhoi i mewn bocs.

Owner:
Following the Flame ~ Dilyn y Fflam
Crëwr:
Jack Tyrell, Morgan Scannell, Aimie Thomas, Phil Cope, Darren Dobbs & Andrew Griffiths
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2014
Eitem wedi’i llwytho:
8/7/2014
Gwelediadau:
3037
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment